Sgwrs Nodyn:Gwella
Ydy hi'n syniad da rhoi dyddiad ar y rhybudd hwn? Mae'n addas gwneud hyn ar en oherwydd bydd un o'r miliynnau o ddefnyddwyr rheolaidd yn gwella'r erthygl o fewn y dyddiad. Ond efallai ar cy fydd yr erthygl yn cael ei dileu cyn i rywun gael y cyfle i'w gwella. Glanhawr 13:21, 10 Ebrill 2009 (UTC)
- Rwyn cytuno. Beth os nad yw erthygl yn cael ei glanhau o fewn wythnos? A oes rhaid ei ddileu wedyn? Rhys Thomas 14:01, 10 Ebrill 2009 (UTC)
- Mae'r dyddiad arno'n otomatig. Does dim rhaid ei newid - gweler yr iaith o dan 'Golygu'. Llywelyn2000 14:19, 10 Ebrill 2009 (UTC)
- Fedra i ddim galw'r erthygl fel ag y mae yn gynhwysfawr. A dweud y gwir mae hi'n LLAWN gwallau iaith, yn llawn ffeithiau amheu sydd heb unrhyw fath o ffynonellau ac yn gwbwl annigonol. Drwy ei chlustnodi fel hyn, o leia mi gofia i (pan gaf amser) am ei bodolaeth, a mynd ati i'w gwella. Heb hyn, mi eith efo'r lli... Llywelyn2000 14:19, 10 Ebrill 2009 (UTC)
Dileu[golygu cod]
Os nad oes gwrthwynebiad, dw i am ddileu'r erthyglau / rwts sydd wedi'u tadogi gyda'r Nodyn yma, gan fod digon o gyfle / rhybudd wedi'i roi i'r rheiny sydd wedi eu creu - i'w newid. Mae llawer yn egin rhy fychan: llai na'r dwy baragraff (y lleiafswm) sydd eu hangen. Opsiwn arall ydy blits arnyn nhw am gyfnod o dyweder pythefnos, yn bersonol ond does gen i mo'r amser, ac mae nhw'n eithriadol o fler, fel y maent. Llywelyn2000 (sgwrs) 22:57, 15 Chwefror 2017 (UTC)
- Rhowch wythnos imi geisio achub rhai ohonynt. —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 23:51, 26 Chwefror 2017 (UTC)