Sgwrs Defnyddiwr:Myrddin1977

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

interhalogen[golygu cod]

Rwyf wedi mwynhau dysgu am halogenau wrth ddarllen eich erthygl. Ynglŷn â'r term interhalogen: a gawsoch chi hwn o ryw eiriadur arbenigol ynteu bathu'r term wnaethoch chi? Os mae bathiad yw a allaf i gynnig rhynghalogen yn lle interhalogen? Lloffiwr 20:38, 22 Ebrill 2006 (UTC)[ateb]


Ar ol ystyried, rwy'n cytuno gan nad oes cyfieithiad 'ffurfiol' ar gael. Byddaf yn newid hwn yn fuan. Myrddin1977 15:59, 23 Ebrill 2006 (UTC) Myrddin1977[ateb]

Kaolin[golygu cod]

Diolch Myrddin. Fedri di gynnig cyfieithiad o'r rhain hefyd - kaolinite (kaolineit), nacrite (nacreit) a dickite (diceit)? Roeddwn i'n meddwl fod hidrus yn edrych yn od ond dyna oedd gan "Y Geiriadur Mawr" ac roeddwn i'n rhy ddiog i godi ac edrych y gair yn GPC. Diolch eto, Fôn (yn galw heibio i'r wici cyn ei throi hi am y nos - dim yn syniad da!). Anatiomaros 23:41, 28 Hydref 2006 (UTC)[ateb]

O.N. Fedri di siecio rhai o'r termau yn Porslen hefyd? Anatiomaros 23:59, 28 Hydref 2006 (UTC)[ateb]

Kaolin = caolin (eg); Porcelain = poslen (eg) [o'r termiadur] Ar gyfer y mileralau eraill, dwi ddim yn sicr. Gwnaf i edrych eto amdanynt Myrddin1977 01:07, 29 Hydref 2006 (UTC)[ateb]

Diolch. Dwi ddim yn siwr am poslen; mae porslen yn fwy cyfarwydd imi. Dyna (a'r amrywiad porslan) a geir yn Geiriadur Prifysgol Cymru, a does dim cofnod am poslen o gwbl (mae'n swnio'n rhy debyg i gyfuniad o pos "puzzle" a llen!). Dwi am gadw Porslen am rwan felly. Ond rhaid dweud bod rhai o'r termau technegol 'ma yn drysu rhywun weithiau! Gyda llaw, dwi wedi creu categori "Mwynau" hefyd. Hwyl, Anatiomaros 14:45, 29 Hydref 2006 (UTC)[ateb]
Sori - teipio'n rhy hwyr - porslen dyle fe fod! 00:16, 30 Hydref 2006 (UTC)

Just a question[golygu cod]

I'm sorry I don't speak Welsh but I'm Argentinian and the truth is that I don't even speak English very well. We're having a problem at Spanish Wikipedia with the etymology of the word "Dorset". The article says that it comes from two Welsh words: Dwrn, which means "fist", and gwarae, that means "play". We have no references for that information and naturally there're no many Welsh speakers at Spanish Wikipedia, that's why I ask you if "fist" and "play" are actually the real meanings of the words Dwrn and gwarae. As I don't have an account in Welsh Wikipedia, I'd be really pleased if you answered my question here below. Thank you very much. Please, write in English! :) --201.252.199.248 01:47, 12 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]

Hawlfraint gwaith[golygu cod]

S'mae? Nid wyf wedi defnyddio google o gwbl i gael lluniau, fe sganiais i'r llun mewn o nodiadau cemeg (sheets ysgol) ac fe wnes i'r Cromlinnau Dosraniad Egni Gronnynau gyda llaw (gweler:Cyfradd adwaith).

Roeddwn ni yn meddwl fod hyn yn iawn oherwydd roeddwn ni'n meddwl taw'r athrawon a grëwyd y gwaith- does dim problem efo nhw. A oes syniad gen ti pwy yw perchennog y gwaith (delwedd)? Fi ychydig yn ddryslyd am beth ddywedoch chi am y teipio? Rwyf wedi ceisio ailgeirio beth sydd yn fy nodiadau ysgol, eto roeddwn ni'n meddwl taw'r athrawon a grëwyd y nodiadau. Sori am achosi unrhyw anghyfleustra- ond cofiwch, dyma ddyfodol yr Iaith Gymraeg, ond trwy lenwi pob bwlch yn wicipedia yr ydym yn gallu cystadlu yn erbyn y Saesneg a chael niferoedd sy'n astudio trwy'r iaith i fynnu. Os yr ydych yn gwybod enw'r awdur, gallai rhoi'r enw ar waelod y ddelwedd. Rhys Thomas 09:39, 14 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Peidiwch a poeni- rwyf wedi dileu y delwedd gwreiddiol ac amnewid am yr un isod.
Egni Adwaith
Rhys Thomas 11:40, 14 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]


Rhys - pan mae unrhywun yn creu gwaith a darluniau, yr awdur sy'n dal yr hawlfraint. Mae hwn yn wir am y gwaith os mae'n llyfr neu nodiadau ysgol. Paid a chymryd yn ganiataol mai'r person sy'n dysgu gwers gwnaeth ysgrifennu'r nodiadau - mae athrawon yn tueddu menthyg a rhannu nodiadau. Fi wnaeth ysgrifennu'r nodiadau yr wyt ti yn eu derbyn yn dy ysgol pan yr oeddwn i'n dysgu yna (a dy ddysgu ti hefyd....ond mae blwyddyn 8 a 9 yn teimlo fel degawdau yn ol yn awr). Wnes i gadael copiau electronig o'r nodiadau hyn i'r athrawon eraill eu defnyddio i addysgu ond nid yw hwn yn newid perchennog yr hawlfraint. Mae hawlfraint y nodiadau a'r darluniau felly yn eiddo i mi, a gobeithio dy fod yn awr yn glir pwy sy'n ysgrifennu hwn.

Nid ydwyf i'n pryderu am fy nghwaith i yn ymddangos yma, ac rwy'n digon hapus i ti ddefnyddio delweddau o'r nodiadau a rhannau o'r nodiadau eu hun. Ni ddylet ti cymryd yn ganiataol bydd pobl eraill yn ymateb yn yr un modd. Gwna'n siwr dy fod yn ofyn i awdur gwreiddiol unrhyw darn o waith cyn ei ddefnyddio yma, yn enwedig os wyt ti'n mynd i ddwneud mai ti yw'r awdur gwreiddiol wrth roi darlun ar y system i ddiogelu dy hun. Paid a phoeni fy mod i'n mynd i creu trwbl o ran hawlfraint, ond rydw i'n poeni gallai rhywun arall cwyno os wyt ti wedi ddefnyddio eu gwaith nhw.

O ran y nodiadau electronig - gan mai fi ysgrifennodd y nodiadau yn gwreiddiol, mae gennyf i'r nodiadau hyn ar ffurf ffeiliau 'word'. Os wyt ti am ddefnyddio fwy o'r nodiadau gofynna am y ffeiliau hyn yn hytrach na' chopio'r geiriau allan i roi ar y dudalen. Byddai hwn yn enwedig yn wir gyda darluniau, yn hytrach na sganio, er mwyn cael ansawdd well.

Myrddin1977 22:15, 14 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Iawn- diolch a sori! Sut ydych chi ar ôl y blynyddoedd sydd wedi hedfan heibio? (Fi'n dyfalu taw Dr Thomas yw hwn nawr?!?!). Wel y rheswm pennaf i mi ymuno a wicipedia yw helpu mi adolygu ar gyfer fy arholiadau ac i helpu adeiladu'r pynciau gwyddonol i fynnu- fel chi'n dweud, mae'r erthyglau gwyddoniaeth yn "dlawd iawn" ar heno bryd. Yn y dyfodol, nai lleihau defnydd fy nodiadau ac ailgeirio stwff i wneud nhw'n fwy yn addas. Hwyl am y tro, Rhys Thomas 22:46, 14 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Gwiro bathiadau safonol[golygu cod]

Faset mor garedig â bwrw golwg dros ddwy erthygl i sicrhau fy mod wedi cynnwys y bathiadau safonol diweddaraf os gweli di'n dda:

asid fitamin

Diolch o galon! Llywelyn2000 13:30, 18 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]