Sgwrs Defnyddiwr:Mnj1

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Helo, Mnj1. Dwi wedi gwrthdroi dy gyfraniad diwethaf i Harri Potter am y rhesymau canlynol:

  1. Dydy enw llawn Siriws ddim yn ymddangos o gwbl yn y llyfr; yr unig ffynhonnell sydd gennym ar dudalen 12 yn Harri Potter a Maen yr Athronydd, sy'n dweud, "'Af i â beic Siriws yn ôl iddo fo." Felly, ni ddylid rhoi'i enw llawn eto.
  2. Cyhoeddwyd Harri Potter a Maen yr Athronydd gyntaf yn y Gymraeg yn 2003 - cyhoeddwyd Harry Potter and the Order of the Phoenix, Harry Potter and the Half-Blood Prince, ac Harry Potter and the Deathly Hallows ar ôl 2003, felly nid oedd modd gwybod teitlau'r llyfrau cyn hynny, felly sut all awgrymu teitlau Cymraeg?! Cyhoeddwyd y llyfrau cyn Harry Potter and the Order of the Phoenix cyn 2003.
  3. Nid oes teitlau Cymraeg yn fy nghopi i o Harri Potter a Maen yr Athronydd, ac mae pob copi'r un. Oes yw'r cyfrannwr yn gallu darparu llun gwreiddiol o'r teitlau gwreiddiol, derbyniaf y cyfraniad heb sôn amdano eto.
    Dwi wedi newid ambell i bwynt ar Harry Potter and the Chamber of Secrets. Un pwynt yr hoffwn godi â thi: NID oes teitlau Cymraeg ar y llyfrau eraill oherwydd y rhesymau a roddais uchod. Plîs beidio â'u cyfieithu. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 19:45, 28 Mehefin 2011 (UTC)[ateb]

Nid fi a gyfieithodd y teitlau. Fel ysgrifennais fel troed nodyn i'r FFEITHIAU am y llyfrau, cyhoeddwyd holl teitlau'r cyfres yn y Gymraeg tu fewn i fersiwn clawr papur y llyfr, 2010. Gweler http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/f/f3/Harri_Potter.JPG Ymddiheiriadau nad yw i'n gallu ymateb i weddil dy bwyntiau ar hyn o bryd.

Heia, Mnj1. Sut mae? Rwy wedi gweld y llun a uwchlwythoch chi, ac rwy'n derbyn y teitlau. Ychwanegaf nhw at yr erthygl yn awr. Diolch am ddarparu hyn. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 15:46, 15 Ionawr 2012 (UTC)[ateb]