Neidio i'r cynnwys

Harri Potter

Oddi ar Wicipedia
Harry Potter

Arfbais Hogwarts, sy'n cynrychioli'r pedwar Tŷ (yn glocwedd o'r dde, top: Slafennog, Crafangfran, Wfftipwff, a Lleureurol), gydag arwyddair yr ysgol, sy'n golygu "Paid byth â gogleisio draig sy'n cysgu".[1]
Awdur J. K. Rowling
Gwlad Y Deyrnas Unedig
Math Ffantasi, ffuglen oedolyn ifanc, dirgel, cyffrous, Bildungsroman, dod i oed
Cyhoeddwr Bloomsbury Publishing
Dyddiad cyhoeddi 29 Mehefin 1997 – 21 Gorffennaf 2007
Math o'r cyfryngau Print (clawr caled a chlawr papur)
Awdiolyfr

Cyfres o saith nofel ffantasi a ysgrifennwyd gan yr awdures Saesneg J. K. Rowling yw Harry Potter. Mae'r llyfrau yn croniclo anturiaethau dewin ifanc o'r enw Harri Potter a'i ffrindiau gorau: Ron Weasley ac Hermione Granger yn Ysgol Hudoliaeth a Dewiniaeth Hogwarts. Prif thema'r llyfrau yw cwest Harri i oresgyn y dewin drwg, tywyll, Lord Voldemort, sy'n benderfynol o ddarostwng pobl di-hud, gorchfygu'r byd hudol, a dinistrio pawb a phopeth sy'n ei rwystro rhag cyflawni hyn, yn enwedig yr arwr Harri Potter.

Ers 29 Mehefin 1997 pan ryddhawyd y nofel yn gyntaf, Harri Potter a Maen yr Athronydd (Saesneg gwreiddiol: Harry Potter and the Philosopher's Stone), mae'r llyfrau wedi ennill poblogrwydd anferthol, cymeradwyaeth gan y beirniaid a llwyddiant masnachol ledled y byd.[2] Mae'r gyfres hefyd wedi cael ei barnu, gan gynnwys pryder ynghylch y naws ddrwg gynyddol. Ers Mehefin 2011, mae'r gyfres lyfrau wedi gwerthu tua 450 miliwn o gopïau, yn ogystal â chael ei chyfieithu i 67 iaith,[3][4] gan gynnwys y Gymraeg.

Mae'r gyfres yn cynnwys llawer o genres, gan gynnwys ffantasi a dod i oed (gydag elfennau o ddirgelwch, cyffro a rhamant), ac mae llawer o gyfeiriadau ac ystyron diwylliannol ynddi.[5][6][7][8] Yn ôl Rowling, prif thema'r llyfrau ydy marwolaeth,[9] ond ystyria'r gyfres fel gwaith llenyddiaeth i blant. Ceir themâu eraill yn y gyfres, megis cariad a rhagfarn.[10]

Prif gyhoeddwr y llyfrau gwreiddiol Saesneg yng ngwledydd Prydain oedd Bloomsbury ond cyhoeddwyd y llyfrau gan wahanol gyhoeddwyr ledled y byd erbyn hyn. Addaswyd y gyfres i gynhyrchu wyth ffilm gan Warner Bros. Pictures, gyda rhannu'r seithfed llyfr yn ddwy ffilm; hi yw'r gyfres ffilmiau crynswth mwyaf yn hanes y byd ffilmiau. Mae llawer o nwyddau yn sgil y ffilmiau hefyd, sy'n werth mwy na $15 billion.[11]


Harri Potter a'r Gymraeg

[golygu | golygu cod]

Mae'r nofelau yn dilyn bywyd Harri Potter: plentyn amddifad un-ar-ddeg oed sy'n darganfod mai dewin ydyw, wrth iddo fyw yn y byd real ymhlith pobl di-hud, neu'r byd Mygl.[12] Ganwyd ef gyda dewiniaeth yn gynhenid ynddo, a gwahoddir plant hudol i ysgol sy'n addysgu'r sgiliau angenrheidiol er mwyn iddynt ymdopi yn y byd hudol. Daw Harri'n fyfyriwr yn Ysgol Hudoliaeth a Dewiniaeth Hogwarts ac mae'r mwyafrif o anturiau Harri Potter yn digwydd yn yr ysgol. Wrth i Harri heneiddio, mae'n dysgu goresgyn y problemau sy'n ei wynebu: problemau hudol, cymdeithasol ac emosiynol, gan gynnwys heriau cyffredin i'r arddegau, megis cyfeillgarwch ac arholiadau, a'r her fwyaf o baratoi ei hunan ar gyfer y gwrthdaro sydd o'i flaen.[13]

Mae pob llyfr yn croniclo un flwyddyn ym mywyd Harri[14] gyda'r prif naratif yn digwydd rhwng 1991 a 1998.[15] Mae gan y llyfrau lawer o ôl-fflachiau a gânt eu profi gan Harri; er enghraifft mae'n gweld atgofion cymeriadau eraill mewn dyfais o'r enw "Pensieve".

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Visitor's Guide to Hogwarts. The Harry Potter Lexicon (21 Mai 2009).
  2. Allsobrook, Dr. Marian. Potter's place in the literary canon , BBC, 18 Mehefin 2003. Cyrchwyd ar 15 Hydref 2007.
  3. Rowling 'makes £5 every second' , BBC, 3 Hydref 2008. Cyrchwyd ar 17 Hydref 2008.
  4.  All Time Worldwide Box Office Grosses. Box Office Mojo, LLC. (1998–2008).
  5.  Living with Harry Potter. BBC Radio 4 (10 Rhagfyr 2005).
  6.  Harry Up!. ew.com (2000).
  7.  Nancy Carpentier Brown (2007). The Last Chapter. Our Sunday Visitor.
  8.  J. K. Rowling. J. K. Rowling at the Edinburgh Book Festival.
  9. Geordie Greig. 'There would be so much to tell her...' , Daily Telegraph, 11 Ionawr 2006. Cyrchwyd ar 4 Ebrill 2007.
  10. Interview with Steve Kloves and J.K. Rowling , Quick Quotes Quill, 28 Gorffennaf 2008.
  11.  Business big shot: Harry Potter author JK Rowling.
  12. Lemmerman, Kristin. Review: Gladly drinking from Rowling's 'Goblet of Fire' , CNN, 14 Gorffennaf 2000. Cyrchwyd ar 28 Medi 2008.
  13.  Plot summaries for the first five Potter books. SouthFlorida.com (14 Gorffennaf 2005).
  14. Foster, Julie. Potter books: Wicked witchcraft? , Hydref 2001.
    • Sefydlwyd y blynyddoedd cyntaf gan gacen dydd marwolaeth Gron Heb Ben Bron yn yr ail lyfr, sy'n nodi ail flwyddyn Harri yn yr ysgol yn digwydd rhwng 1992–93.
    • Sefydlwyd y blynyddoedd hefyd gan farwolaeth rheini Harri yn y llyfr olaf