Cyfres Harri Potter a'r Gymraeg

Oddi ar Wicipedia

Mae cyfres Harri Potter yn cynnwys cysylltiau i Gymru ac mae un llyfr hyd yn hyn (Awst 2011) wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg gan Emily Huws, a ddywedodd, "Gwynebais anawsterau arbennig nad oeddwn wedi eu profi o'r blaen wrth gyfieithu Harri Potter. Mae gan JK Rowling ffordd mor wych gyda iaith, gan ei bod wedi gwneud geiriau i fyny o'i dychymyg, ac fe wnes i fy ngorau i gadw'n ffyddlon i'w hystyr gwreiddiol."[1] Cafodd, felly, gymorth gan gefnogwr 15 mlwydd oed wrth iddi gyfieithu'r llyfr.[2]

Cyfieithiad i'r Gymraeg[golygu | golygu cod]

Yr unig lyfr a gyfieithwyd i'r Gymraeg yw Harri Potter a Maen yr Athronydd.

Yn fersiwn Cymraeg y nofel, mae'r rhan fwyaf o'r cymeriadau yn cadw eu henwau Saesneg, ond mae enw Cymraeg gwahanol ar rai cymeriadau, pethau, neu leoedd mewn cymhariaeth â'r fersiwn Saesneg.

Cymraeg Saesneg gwreiddiol
Dreigo Mallwyd Draco Malfoy
Edeyrn ag Efnisien Crabbe and Goyle
Gringrwn Gringotts
Mygl (lluosog: Myglars) Muggle (muggles)
Nefydd Llywelyn Neville Longbottom
Y Proffwyd Dyddiol The Daily Prophet
Garadog Fychan Cornelius Fudge
Y Piwsiwr Peeves
Waldo Waedlyd the Bloody Baron
Wyddost-Ti-Pwy You-Know-Who
Gron Heb Ben Bron Nearly Headless Nick
Sefran Sneip Severus Snape
Siriws Ddu Sirius Black

Enwau pedwar Tŷ Ysgol Hudoliaeth a Dewiniaeth Hogwarts:

Cymraeg Saesneg gwreiddiol
Slafennog Slytherin
Lleureurol Gryffyndor
Wfftipwff Hufflepuff
Crafangfran Ravenclaw

Yn 2010 cyhoeddwyd argraffiad clawr papur o’r llyfr cyntaf yn y Gymraeg, ag ynddi gyfieithiad i enwau’r saith lyfr petaaent yn cael eu cyfieithu, fel a ganlyn:

Saesneg gwreiddiol Cymraeg
Harry Potter and the Philosopher's Stone Harri Potter a Maen yr Athronydd
Harry Potter and the Chamber of Secrets Harri Potter a’r Siambr Gyfrinachau
Harry Potter and the Prisoner of Azkaban Harri Potter a’r Carcharor o Azkaban
Harry Potter and the Goblet of Fire Harri Potter a’r Ffiol Fflamau
Harry Potter and the Order of the Phoenix Harri Potter ac Urdd y Ffenics
Harry Potter and the Half-Blood Prince Harri Potter a’r Tywysog o Hanner Gwaed
Harry Potter and the Deathly Hallows Harri Potter a’r Tri Pheth Marwol
Cyfieithiad teitlau Harri Potter

J.K. Rowling, cyf. Emily Huws, Harri Potter a Maen yr Athronydd, (Bloomsbury, Llundain. 2010) ISBN 978-1-4088-1767-4

Cysylltiadau rhwng byd Harri Potter a Chymru[golygu | golygu cod]

  • Holyhead Harpies yw un o'r timau Quidditch enwocaf ym Mhrydain (a hoff tîm Ginny Weasley).
  • Yn y bennod olaf, mae Harri, Ron, a Hermione yn cuddio mewn coedwig yng Nghymru.
  • Mae rhywogaeth o dreigiau yn byw yng Nghymru: y ddraig gyffredin werdd Gymreig.
  • Yn 'The Prisoner of Azkaban,' mae menyw ar y Knight Bus yn gadael am y Fenni.
  • Recordiwyd rhan y ffilm "Harry Potter and the Deathly Hallows" ar draeth yn Freshwater West (Sir Benfro).[3]
  • Yn 2014 rhyddhawyd cyfres newydd o'r llyfrau gyda chloriau newydd gan yr artist o Nannerch yn Sir y Fflint, Jonny Duddle.[4]
  • Mae J.K. Rowling wedi cyhoeddi bod gan sawl un o'i chymeriadau cyswllt pellach â Chymru, a hynny trwy ei gwefan, Pottermore. Mae'r rhain yn cynnwys Remus Lupin, a oedd yn enedigol i Fam Fyglar a oedd o Gaerdydd, a chymeriad cefndirol y gantores Celestina Warbeck, a oedd wedi'i seilio ar Shirley Bassey.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Cymraeg) BBC - Gogledd Orllewin - Emily Huws. BBC. BBC (9 Ebrill 2004). Adalwyd ar 6 Awst 2011.
  2. (Saesneg) Steven Goldstein (23 Rhag 2004). Translating Harry Potter. Adalwyd ar 6 Awst 2011.
  3. Erthygl y BBC
  4. Erthygl Wales Online
  5. Erthygl Wales Online