Sgwrs Defnyddiwr:Dei Tomos

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Haia - a chroeso! Dw i'n gweld dy fod wedi newid y sillafiad 'Nant Peris' i Nantperis' yn fama ar y ddalen Llanberis. Y sillafiad ar Wicipedia ydy'r un sydd yn Archif Melville Richards, sef Nant Peris. Dyma hefyd sy'n cael ei ddefnyddio gan yr eglwys leol, sef dau air. Fodd bynnag, dwi'n gweld fod Cyngor Gwynedd yn defnyddio dy orgraff di: gweler 'Llechi Cymru', sef un gair - ond dau air yma. Unrhyw dystiolaeth / cyfeiriadau eraill i 'Nantperis', neu mi fydd yn rhaid ei newid yn ol i ddau air. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:29, 9 Gorffennaf 2017 (UTC)[ateb]