Sgwrs Defnyddiwr:Cupper52

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Mae'n ddrwg gen i fod yn rhaid i mi dynnu'r nodynnau "Gwella" o Arth Bach Drwg a'r erthyglau eraill. Rwy'n cytuno bod yr erthyglau hyn yn haeddu cael eu hehangu, ond nid yw'n ddefnyddiol rhoi'r baneri hyn ar y brig. Mae gennym filoedd o erthyglau byr o'r math ar Cywici, gan ddilyn yr egwyddor ei bod yn well cael erthygl fer na dim o gwbl. Gallai'r math hwn o label fod yn ddefnyddiol ar Enwiki, lle mae miloedd o olygyddion a allai ddod i lenwi'r bylchau, ond nid yma. Ac eithrio mewn lleoedd penodol iawn nid ydyn nhw'n helpu, ac yn digalonni iawn i'r rhai ohonom sy'n gweithio i wella pethau. Rwy'n siŵr bod gennych y bwriadau gorau, ond os credwch fod angen gwella ffynonellau, gwellwch nhw. Nid yw'n ddefnyddiol gadael negeseuon yn dweud wrth bobl eraill am wneud hynny. --Craigysgafn (sgwrs) 21:52, 8 Ionawr 2021 (UTC)[ateb]

Cytuno gyda @Craigysgafn:. Dim angen ychwaith nodyn fod angen ffynonellau, pan nad oedd amheuaeth am y cynnwys. Mae un ac un yn ddau; dim angen ffynhonnell! Mae gofyn am ffynonellau ychwanegol ar hon, er enghraifft yn hurt. Llywelyn2000 (sgwrs) 20:17, 10 Ionawr 2021 (UTC)[ateb]