Sgwrs Defnyddiwr:Adda'r Yw/Hafan

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Diolch yn fawr am fwrw ati i ail-gynllunio tudalen yr hafan. Mae golwg da arno.

Yn yr adran ar erthyglau dewis rydych wedi copïo'r ddolen 'Cylchwyliau', sy'n hebrwng dyn at dudalen y 'calendr', o'r dudalen hafan bresennol. Mae'r teitl Cylchwyliau yn gamarweiniol. Oes gwell hepgor y cyswllt yn llwyr am nawr a chael y cyswllt at heddiw yn unig ar dudalen yr hafan? Lloffiwr 14:50, 30 Medi 2006 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr. Dwi wedi dileu'r cyswllt "Cylchwyliau", ond wedi rhoi rhai i'r tudalennau Materion cyfoes a Rhestr dyddiau'r flwyddyn ochr yn ochr a'r dyddiad. —Adam (sgwrscyfraniadau) 16:24, 30 Medi 2006 (UTC)[ateb]

tudalen gymorth[golygu cod]

Rwyf wedi newid 'y dudalen cymorth' i 'y dudalen gymorth' oherwydd mai 'y dudalen gymorth' sy'n dod yn naturiol iddo fi. Y mae'r fusnes o dreiglo ai pheidio ar enwau'n dilyn ei gilydd yn fusnes astrus. Ceir trafodaeth ar y mater ar dudalennau 383 - 384 yn Y Golygiadur gan Rhiannon Ifans. Efallai bod modd dadlau dros peidio â threiglo 'cymorth' wedi 'tudalen'. Os oes rhywrai yn clywed 'y dudalen gymorth' yn annaturiol dywedwch hynny fan hyn os gwelwch yn dda er mwyn cyrraedd consensws ar y mater. Lloffiwr 15:52, 30 Medi 2006 (UTC)[ateb]

difyrweithiau[golygu cod]

Lle gaethoch chi afael ar y gair difyrweithiau ar gyfer hobbies? Lloffiwr 22:30, 30 Medi 2006 (UTC)[ateb]

Mae'r cyswllt "Hobi" ar yr hafan gyfredol yn arwain at y dudalen Difirwaith. Nes i chwilio am y gair yng ngeiriadur Cymraeg Collins Spurrell, a gwelais "difyrwaith" fel y cyfieithiad, felly symudais y dudalen. —Adam (sgwrscyfraniadau) 17:20, 1 Hydref 2006 (UTC)[ateb]
Diolch am yr eglurhad. Mae dysg i'w gael o grud i fedd! Lloffiwr 13:16, 21 Hydref 2006 (UTC)[ateb]

wicipediaiaith[golygu cod]

rwyf wedi cynnig diwygiad i'r nodyn wicipediaiaith ar ei thudalen sgwrs. Ydy'r cynnig yn plesio? Lloffiwr 11:51, 1 Hydref 2006 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr, dwi wedi golygu'r nodyn. (A diolchiadau i chi ac i Daffy am wella'r iaith ar y drafft.) —Adam (sgwrscyfraniadau) 17:25, 1 Hydref 2006 (UTC)[ateb]

Cymdeithas[golygu cod]

A allwn ni ailenwi'r adran Gwyddorau Cymdeithas ac Athroniaeth yn 'Cymdeithas'? Gallwn roi Gwyddorau Cymdaithas yn y rhestr categorïau yn lle'r cyswllt coch 'Cymdeithaseg'. Gallwn hefyd ychwanegu 'Pobl' i'r adran yma gan y bydd y teitl yn fwy agored gan greu llwybr at y bywgraffiadau yn Wicipedia. Lloffiwr 11:58, 1 Hydref 2006 (UTC)[ateb]

tanlinellu[golygu cod]

dwi ddim yn gwybod a oes modd cael gwared ar y tanlinellu o dan y cysylltiadau? gweler Sgwrs:hafan#tanlinellu Lloffiwr 19:09, 1 Hydref 2006 (UTC)[ateb]

Mae'n bosib ei wneud yn eich dewisiadau (cliciwch ar y tab "Gosodiadau amrywiol" ac yna dewisiwch "Byth" yn y gwymplen "Tanlinellu cysylltiadau") ond dwi ddim yn gwybod sut mae rhagosodu hyn ar gyfer pob defnyddiwr ac ymwelwr i'r wefan. Byddai'n holi ar Wikipedia neu Meta ac yn hysbysu chi fan hyn. —Adam (sgwrscyfraniadau) 19:29, 1 Hydref 2006 (UTC)[ateb]

cysylltiadau at y pynciau[golygu cod]

Ar hyn o bryd mae'r cysylltiadau ar yr hafan yn arwain at erthyglau pwnc (y rhan fwyaf ohonynt yn stwbyn) yn hytrach nag at dudalennau categori. Gwelwch Sgwrs Defnyddiwr:Lloffiwr#Categori am ddechrau trafodaeth ar y categorïau. Ydy hi'n ymarferol i ni newid y cysylltiadau i arwain at gategorïau neu a oes angen rhagor o waith ar y categorïau gyntaf? Lloffiwr 18:03, 8 Hydref 2006 (UTC)[ateb]

Mae'r rhan fwyaf o Wicipediau gyda chysylltiadau i byrth ar y pynciau pwysig, a rhai (fel yr un Eidaleg) gyda chysylltiadau i gategorïau. Ond y broblem yw mae nifer o'r categorïau ar Wicipedia ni mor fach a'r erthyglau – gallen ni rhoi flaenoriaeth i ehangu'r erthyglau neu'r categorïau (neu'r ddau) ar bynciau pwysig, ond mae hyn siwr o fod wedi bod yn amcan Wicipedia ers ei ddechreuad! Yn bersonol, dwi ddim yn siwr beth yw'r opsiwn gorau.
Mae'r parth "Porth" yn un "artiffisial" ar Wicipediau (nid yw wedi'i rhagosod), a chafodd ei greu er mwyn i'r Wicipediau mawrion trefnu erthyglau ar un bwnc. Wrth gwrs, nid yw ein Wicipedia ni mor fawr â'r rhai yma, ond os ydy rhywun yn credu mae modd creu rhai pyrth, gallai gofyn ar Bugzilla am gread y parthau "Porth" a "Sgwrs Porth". —Adam (sgwrscyfraniadau) 18:39, 8 Hydref 2006 (UTC)[ateb]
Ydy mae'n dipyn o broblem gwybod lle mae orau dechrau ar ein wicipedia fach ni! Cytuno ei bod falle'n rhy gynnar ymhel â phyrth. Lloffiwr 20:10, 8 Hydref 2006 (UTC)[ateb]

Y Cyfeiriadur[golygu cod]

Rwyf wedi drafftio dechreuad ar restr o dudalennau cyfeiriadurol ar Defnyddiwr:Lloffiwr/Drafft - Y Cyfeiriadur tebyg i'r hyn sydd ar gael ar Wicipedia Saesneg yn yr adran 'reference'. Rwyf hefyd wedi creu categoriau newydd cyfatebol, sef 'Cyfeiriaduron' a 'Rhestrau cyfeiriaduron'. Oes cynigion am welliannau ar y termau hyn? Mae 'reference' yn rhyw fath o faes pwnc ychwanegol ar Wikipedia. Ydy'r cynnig i greu 'adran' newydd a'r drafft o'r Cyfeiriadur ill dau yn gymeradwy? Os yw, gallaf fwrw ymlaen i greu'r dudalen go iawn a'i ychwanegu at yr adran 'Pori'r Cynnwys' ar y dudalen hafan newydd.

Ar yr un pryd a allwn ni gael gwared ar y cyswllt i 'Cymorth' yn yr adran 'Pori'r Cynnwys' gan fod 'Cymorth' hefyd yn agos i ben y dudalen hafan. Hefyd, a ydym ni am gael y cyswllt i 'Wiciprosiectau' ar yr hafan? Oes rhywrai yn gwneud defnydd o'r dudalen hon? Yn olaf, os ydym yn rhoi cyswllt i'r Cyfeiriadur ar yr hafan oes rhaid cael cyswllt i'r 'rhestr dyddiau'r flwyddyn' ar yr hafan?

Lloffiwr 21:25, 16 Hydref 2006 (UTC)[ateb]

Dwi wedi dileu'r cysylltiadau "Cymorth" ac "WiciProsiectau" o'r adran "Pori'r Cynnwys". Mae'r Cyfeiriadur yn edrych yn dda, a dwi'n meddwl bod y termau "Cyfeiriaduron" a "Rhestrau cyfeiriaduron" yn iawn. —Adam (sgwrscyfraniadau) 23:17, 20 Hydref 2006 (UTC)[ateb]
Wedi creu'r dudalen Y Cyfeiriadur a'i roi ar yr hafan newydd. Lloffiwr 13:16, 21 Hydref 2006 (UTC)[ateb]