Sgwrs Defnyddiwr:Adda'r Yw/Archif 1

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Wictionary

Hi Adam. Wow. I haven't looked at Wictionary for about 18 months - there are an awful lot of MediaWiki strings that need bringing to bring the interface into line with cy:Wicipedia, so I've made a start tonight. I think I got most of the commoner tabs today. If I were a Bureaucrat on Wictionary instead of a mere Administrator, I'd make you an Administrator too so you could help out! :) Changing actual namespace names needs the intervention of a Developer, and they're scarce - I'll see if I can find one. -- Arwel 21:49, 26 Hydref 2005 (UTC)

Treigloffobia

There's an deletion review at Wikipedia about this deleted article [1]. I'd value your comments in this review. --- Charles Stewart

yr elfennau

Rwyf wedi mentro altro cystrawen rhai o'r erthyglau ar yr elfennau fel bod rhediad naturiol Cymraeg i'r frawddeg. Gelli weld enghreifftiau yn erthyglau Ffosfforws, haearn, arian ac aur. Croeso iti ddefnyddio'r rhain yn batrwm ar gyfer elfennau eraill. Braf iawn gweld yr erthyglau ar yr elfennau yn ymddangos o un i un a'r ochr wyddonol o'r wicipedia yn tyfu. Lloffiwr 14:27, 19 Rhagfyr 2005 (UTC)

Nodyn: cwmni

Rwyf wedi mentro cynnig diwygiad i'r ymadrodd 'prif pobl' yn y dudalen sgwrs ar y nodyn uchod ac am dynnu dy sylw ato. Lloffiwr 19:16, 26 Mawrth 2006 (UTC)

Translation

Hi, Adam! Could you help me translating the following text?

"Allan Kardec is the pseudonym used by the French educator Hippolyte Léon Denizard Rivail during his 15 last years of life, dedicated to the structuration of the Spiritism. As an educator, he was one of the main divulgators of Pestalozzi's educational method in the 19th century. Published books of grammar, Arithmetic and suggestions for the improvement of public education in France. Taught physiology, astronomy, physics and chemistry at Polimatic Lyceum, in Paris.

In 1854, Rivail started studying the paranormal phenomena that were investigated by many scientists and philosophers during the second half of 19th century. His pedagogical sense, built along 30 years focused on education, was fundamental in his attempt to elaborate a system of thought in which the spiritual manifestations worked to the social and moral transformation of the humanity. Instead of devoting the rest of his life "to prove scientifically" that some of those phenomena could be caused by the action of spirits, Kardec tried to extract from the possibility embraced by him, the spiritual or medunic hypothesis, something of profit for the humanity. Inspired by this ideal, he dedicated his last years to the structuration of the philosophical whose name was created by him: the Spiritism (fr. Spiritisme)" Arges 13:09, 17 Ebrill 2006 (UTC)


English wikipedia: cause for concern

Annwyl Adam. Please forgive me using English. If you frequent the English wikipedia, you may be aware of the existence of [[Category:Welsh-speaking people]]. This has been nominated for deletion, on the grounds that all "similar" categories, eg. English-speaking people, would be "too big". I'm not prepared to die in a ditch over it, but I do feel that it's an obvious exception. If you have an opinion, would you care to get over there sharpish, and contribute to the debate? Deb 11:58, 7 Gorffennaf 2006 (UTC)

Enwau lleoedd

Adam - dwi wedi ateb i'th neges ar dudalen Sgwrs:Newfoundland_a_Labrador. Daffy 14:32, 4 Medi 2006 (UTC)

Adminship on cy-wikisource

Hi, I've made a request at s:Wicitestun:Y Sgriptoriwm to have adminship rights granted at the Welsh Wikisource. I'm the only active user there at the moment, which means no one is available to do anything that requires adminship rights. If you'd like to support or oppose my request, please do so there. Thanks! Angr 10:32, 30 Medi 2006 (UTC)

I've done what you asked - could you please check it's what you wanted. Deb 17:00, 8 Hydref 2006 (UTC)

Enwebu

I ti gael gwybod rwyf wedi dy enwebu i fod yn sysop ar Wicipedia. Os nag yw hyn yn dderbyniol i ti elli di ddweud wrth Deb? :) Lloffiwr 16:56, 22 Hydref 2006 (UTC)

If you're happy to accept, I'll get on and find out how to do it! Deb 17:00, 22 Hydref 2006 (UTC)

Okay, it's done! Deb 18:45, 22 Hydref 2006 (UTC)

Gwybodlen Gwlad

Wrth gwrs, dim problem. Diolch yn fawr am eich help!

Of course, not a problem. Thanks heaps for your help! Rob Lindsey 23:10, 26 Hydref 2006 (UTC)


Tudalennau help

Fy mhwrpas gyda hyn o lith yw gofyn am dy gymorth gyda'r tudalennau help. Rwyn gweld y gwaith o gyfieithu'r tudalennau hyn yn waith trwm iawn i'r ychydig rai ohonom sy'n ymhel â nhw. Mae hefyd yn waith ddiddiwedd gan bod y canllawiau help yn newid o hyd. Rwyf wedi sylwi bod modd copïo tudalennau help meta-wici ar ffurf sy'n cadw'n awtomatig i'r fersiwn diweddaraf, e.e. en:Help:Editing. Rwyn gobeithio y gallem greu set o dudalennau cymorth Saesneg sy'n cysylltu â meta-wici a chreu set arall o dudalennau cymorth Cymraeg symlach y bydd angen llai o 'maintenance' arnynt. Ond cyn rhoi'r cynnig hwn ar y Caffi rwyf am gadarnhau bod modd creu'r tudalennau 'automatic update' yma - nid wyf wedi gallu ffeindio'r tudalennau help ar sut i'w creu ac yn eithaf prysur ar hyn o bryd. A fyddet yn fodlon ymchwilio i'r posibilrwydd hyn? Os nag oes amser gen tithau chwaith fe rof y cynnig ar Y Caffi beth bynnag, rwyn credu. Lloffiwr 22:49, 11 Tachwedd 2006 (UTC)

Dim problem - byddaf yn holi i'r gwybodusion ar MetaWici sut mae hwn yn gweithio - mae'r tudalennau help yn rhy 'technical' i'w deall - a dwi ddim yn sicr eu bod nhw wedi creu tudalennau help ar y pwnc hwn beth bynnag - os do, mae'n nhw wedi eu cwato'n dda! Lloffiwr 12:59, 21 Tachwedd 2006 (UTC)

Tudalen hafan newydd

A wyt ti'n disgwyl rhagor o ymateb gan ddefnyddwyr i'r dudalen hafan drafft cyn mentro ei roi ar yr hafan? Os mae te gallaf brocio ambell un o'r defnyddwyr i ymateb un ffordd neu'r llall, os wyt ti am. :-) Lloffiwr 19:09, 24 Tachwedd 2006 (UTC)

gwallt

O ba lliw yw dy wallt? Mh96 23:30, 28 Tachwedd 2006 (UTC)

pwys

Faint wyt ti'n pwysi? Mh96 09:53, 30 Tachwedd 2006 (UTC)

Hafan newydd

Da iawn! Deb 17:04, 27 Rhagfyr 2006 (UTC)

Ia wir; llongyfarchiadau ar y gwelliant gorau dwi wedi gweld ers imi ddechrau gyfrannu. Bendigedig! Anatiomaros 17:15, 27 Rhagfyr 2006 (UTC)

eginyn

helo Adam a Deb,

sori i'ch poeni chi. dwi ddim yn deall wicipedia yn dda iawn ond hoffwn i gyfrannu pan mae amser gen i. mae'n syniad gwych! dw i'n falch o weld y lle wedi gwella'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf hefyd.

dw i wedi gadael nodyn ar dudalen sgwrsio'r Eginyn [2] (a ddim yn cofio sut mae'r dolenni mewnol yn gweithio) ond ddim yn siwr a oes unrhyw un wedi ei weld eto? dw i'n cytuno bod eginyn yn well na stwbyn, ond efallai bod angen gwella eto ar y frawddeg sy'n ymddangos ar waelod pob eginyn?

diolch am eich sylw

Osian 23:23, 5 Ionawr 2007 (UTC)

Taliesin

Tybed fedri di ddileu'r dudalen Taliesin (Y Bardd)? Does dim angen o rwan (dim ond dwy linell oedd 'na beth bynnag). Mae'r dudalen gwahaniaethu newydd (Taliesin (gwahaniaethu)) a'r erthygl (Taliesin) a'r Sgwrs gyda nhw yn esbonio pam (yr ail-gyfeirio oedd y broblem!). Diolch, Fôn. Anatiomaros 22:13, 6 Ionawr 2007 (UTC)

Diolch! Anatiomaros 14:53, 7 Ionawr 2007 (UTC)

IP vandal

Hello. I just want to inform you about this nervy IP. If you feel like blocking it, please do. :o) (I wrote the same to User:Deb.) --Thogo 21:53, 21 Ionawr 2007 (UTC)

Hi. Seeking your support for making Anatiomaros a sysop - to help in our continued struggle against random vandals. Deb 20:05, 24 Ionawr 2007 (UTC)

Cymraeg Casnewydd

Dim i wneud â Wicipedia, ond fel rhywun sy'n byw yng Nghasnewydd ac yn siarad Cymraeg, wyt ti'n ymwybodol o www.cymraegcasnewydd.com? —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Ben Bore (sgwrscyfraniadau) 15:09, 14 Chwefror 2007

Theocrataeth

Hi Adam, jest meddwl oeddwn i, ydyw theocrataeth yn perthyn yn y blwch gwybodaeth 'ideolegau gwleidyddol' neu beidio? Mae'n hanner ffordd rhwng diwinyddiaeth a gwleidyddiaeth rhywsut, ond ar y llaw arall yn ymarferol mae'n ideoleg wleidyddol hefyd. Be di dy farn di? Anatiomaros 22:30, 2 Ebrill 2007 (UTC)

Dwi wedi bod yn ystyried gair Cymraeg am anarchy. Yr unig beth sy'n dod yn agos yw 'anllywodraeth' (='diffyg neu absenoldeb llywodraeth, anhrefn'). Wneiff hynny'r tro? Mae'r Saesneg yn amwys hefyd, o ran hynny. Fedra' i ddim meddwl am ddim byd arall a dydi'r geiriaduron sy gennyf ddim yn cynnig unrhywbeth gwell.

Gyda llaw, dwi wedi gadael nodyn yn Sgwrs Ynysoedd Selyf yn esbonio pam mod i'n meddwl fod 'Ynysoedd Solomon' yn fwy arferol y dyddiau hyn. Wyt ti'n cytuno? (mae 'na ddwy erthygl am iaith a gwleidyddiaeth yr ynysoedd yn bod hefyd - angen dewis enw'r categori). Hwyl, Anatiomaros 16:36, 3 Ebrill 2007 (UTC)

Croeso. Mae 'anllywodraeth' yn well nag 'aflywodraeth' am gyflwr anarchaidd. "Mis-government" yw prif ystyr 'aflywodraeth', er bod hynny'n weithiau bron yn gyfystyr ag anarchi o ran ei chanlyniadau. Anatiomaros 20:12, 4 Ebrill 2007 (UTC)

Cenedligrwydd

Dwi'n gwerthfarogi eich gwaith diflino ar y categoreiddio, ond dwi'n sylwi eich bod yn newid categoriau cenedligrwydd Cymry, e.e. rhoi 'Gwrthryfelwyr Cymreig' yn y categori 'Gwrthryfelwyr Prydeinig' ond dim yn y categori 'Gwrthryfelwyr yn ôl cenedligrwydd'. Dwi'n gweld bod y categoriau ar y wikipedia Saesneg yn cynnwys Cymry yn y categori '...yn ôl cenedligrwydd' yn ogystal â '....Prydeinig'. Pam newid hyn ar y wicipedia Cymraeg felly? Dwi ddim yn deall y rhesymeg. Sut allai Owain Glyndŵr a Llywelyn Bren fod yn wrthryfelwyr "Prydeinig" o ran cenedligrwydd, er enghraifft? Er mwyn tegwch dylem gael y ddau gategori, fel sy'n bod ar y wiki Saesneg. Anatiomaros 21:18, 17 Mehefin 2007 (UTC)

Diolch Adam, mae hynny'n gwneud synnwyr. Anatiomaros 21:40, 17 Mehefin 2007 (UTC)

Help!

I am very active on the English Wiki and decided to create a Welsh account. I accidently put my Babel on my "fy sgwrs" page, so I had to blank it. Could you please officialy delete the page for me, or leave a message there, so it isn't blank? Thanks, --MosheA 01:10, 31 Gorffennaf 2007 (UTC)

POPPETH YN GYMRAEG =

You ever seen that show? such a legend...


Mynegai i'r categorïau

Rwyf wedi cynnig ar Wicipedia:Y Caffi#Categorïau y dylem gael mynegai i'r categorïau ar Wicipedia. Oes chwant arnot ti i fynd ati i ddylunio tudalen o'r fath? (Dwi'n cofio'r gwaith gwych wnes ti'n ail-wampio'r Hafan) Lloffiwr 17:57, 2 Medi 2007 (UTC)

Y fandaliaeth ddiweddaraf

Mae IP 121.44.105.216 wedi creu llwyth (tua 100) o "erthyglau" gwrth-Islamaidd / lol. Fedra'i ddim cael at y dudalennau o gwbl am ryw reswm. Ydych chi wedi trio agor un o nhw? Dwi ddim yn deall beth sy'n mynd ymlaen. Unrhyw syniadau? Anatiomaros 15:07, 1 Tachwedd 2007 (UTC)

Diolch am y cyngor Adam, mae'n gweithio. Be haru rhai pobl? Oes gynnon nhw ddim byd gwell i'w wneud?! Anatiomaros 15:48, 1 Tachwedd 2007 (UTC)

Dear Adam; please look at the links at commons:user:i18n#useful links. Thanks in advance! Best regards Gangleri
‫·‏לערי ריינהארט‏·‏T‏·‏m‏:‏Th‏·‏T‏·‏email me‏·‏‬ 18:02, 7 Chwefror 2008 (UTC)

wiciau eraill

Yn gobeithio dy fod yn cadw'n dda. Cwpwl o bethau efallai y byddet yn hoffi troi atynt os oes amser (ac awydd) gen ti:

  1. Gadewais neges ar dafarn y wiciadur ynglŷn â phroblem gyda negeseuon Mediawici fan 'ny.
  2. Mae angen diweddaru'r adran ar brosiectau wici eraill ar hafan Wicipedia.
    1. Rwyt ti'n gweithio ar y Wikiquote Cymraeg newydd - mae'r ddolen ar hyn o bryd yn mynd at yr un Saesneg ac yn ymddangos yn yr is-adran ar gyfer prosiectau nad ydynt ar gael yn Gymraeg.
    2. Oes modd cael trydydd is-adran ar gyfer y prosiectau aml-ieithog Comin Wicifryngau, Wicibywyd, Meta-wiki? Neu rhoi mewn cromfachau eu bod yn (aml-ieithog)?

Os nad wyt yn credu y cei di amser at hwn gwêd wrtha'i er mwyn i fi gael mynd at Plan B (beth bynnag fydd hwnnw!)? Lloffiwr 22:39, 14 Mawrth 2008 (UTC)

Cyfoes

Dwi newydd ychwanegu ychydig o baragraffau i'r erthygl Cyfundrefn Al-Qaeda yn y Maghreb Islamaidd a rhoi'r nodyn Cyfoes yno. Mewn canlyniad mae'r categorïau eraill wedi diflannu! Be sy'n digwydd, unrhyw syniad? Anatiomaros 19:39, 16 Mawrth 2008 (UTC)

Wps! Anwybyddwch hynny - fi oedd ar fai ac mae'r broblem wedi'i datrys rwan. Anatiomaros 19:45, 16 Mawrth 2008 (UTC)

Nodiadau llywio

Tybed fedri di helpu fi i greu nodyn ar gyfer Taleithiau Mexico? Dwi wedi trio bob math o bethau i gael y deunydd o'r nodyn ar en. (en:Template:States of Mexico) i weithio, ond dim ond hanner y nodyn sy'n dod allan. Dwi wedi gwastraffu digon o amser ac yn mynd nunlle! Oes modd cael nodiadau "navbox" i weithio'n syth yma? Buasai'n arbed lot o drafferth. Anatiomaros 21:51, 16 Mehefin 2008 (UTC)

Diolch! Anatiomaros 19:44, 18 Mehefin 2008 (UTC)
Angen cymorth eto! Ga'i ofyn iti gael golwg ar Nodyn:Gwybodlen Maes awyr hefyd? Sut dwi'n cael y rhestr i'w chopio ({{Gwybodlen..etc..) i beidio dangos yn yr erthygl? Mae'r nodyn ei hun yn gweithio'n iawn, dwi'n meddwl. Anatiomaros 20:02, 18 Mehefin 2008 (UTC)
Ok, dwi wedi sortio hynny o'r diwedd. Ambell beth i'w drwsio ar y nodyn hefyd, ond mi wneiff y tro am rwan. Piti na fyddai'n bosibl cael bot neu raglen i wneud y gwaith copïo ac addasu i gyd - mae rhai o'r nodiadau ar en. mor gymhleth! Anatiomaros 20:49, 18 Mehefin 2008 (UTC)

Term Cymraeg am 'non-ministerial'

Sylwais ar y erthygl greuaist am y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac yn y frawddeg cyntaf mae'r gair anweinidogaethol am non-ministerial. Mae'n edrych braidd yn chwithig i mi - ydy o'n gyfeithiad ti wedi weld yn rhywle arall? Allwn i ddim meddwl beth ddylai fod, o toedd termcymru ddim llawer o help, er mae'n cynnig 'Gweinidogol' am Ministerial. Dwi'n ddim yn siwr pa un sydd yn swnio orau, ond o roi'r ddau derm yn googl, dim ond Ofcom sy'n defnyddio anweinidogaethol, tra mae nifer fawr o adrannau, gan gynnwys y Cynulliad yn defnyddio anweinidogol. Dwi am ei newid i anweinidogol gan mai dyna'r term sy'n cael ei ddefnyddio fwyaf, gobeithio nad oes ots 'da ti.--Ben Bore 09:25, 1 Gorffennaf 2008 (UTC)

Negeseuon Mediawiki

Amser mawr yn ôl fe wnest holi yn rhywle (sai'n cofio lle) ambyti copïo'r negeseuon Mediawiki o Wicipedia i'r Wiciadur a Wicillyfrau. Fe soniais fy mod wrthi'n cyfieithu negeseuon diofyn ar Wikimedia, sef y meddalwedd canolog. Erbyn hyn (o'r diwedd!) rwy' wedi gallu diwygio rhan helaeth y negeseuon. Ar Wicipedia rwy' wedi diddymu'r hen negeseuon fel bod y neges diofyn (y default) yn cael ei ddangos - heblaw am y negeseuon sydd yn arbennig ar gyfer Wicipedia. Felly mae'n bosib gwneud yr un peth ar y Wiciadur a Wicillyfrau. Os nag yw'r gwaith hwn yn apelio atat rwy'n ddigon bodlon bod yn weinyddwr ar y ddwy wefan. Lloffiwr 20:10, 1 Gorffennaf 2008 (UTC)

Wedi sylweddoli o'r diwedd mai ar dudalen sgwrs Angr ar Wicitestun y bum i'n trafod yr 'interface language' amser maith yn ôl ac nid gyda thi - mae'r cwbwl yn gawl yn yr hen gof 'ma, mae'n ddrwg gen i. Os oes amser gen ti i ddarllen y llith ar dudalen sgwrs Angr efallai y bydd yr hyn sydd gen i mewn golwg yn fwy amlwg. Byddai'n braf cael clywed oddi wrthyt un ffordd neu'r llall. Cofion. Lloffiwr 20:53, 1 Awst 2008 (UTC)

Gweinyddwyr

Sut mae, Adam? Dwi wedi enwebu Ben Bore a Tigershrike i ddod yn weinyddwyr (mae 'na nodyn yn y Caffi) ac roeddwn i'n meddwl efallai y buaset ti'n barod i gefnogi'r enwebiad? Cofion gorau, Anatiomaros 16:25, 27 Gorffennaf 2008 (UTC)