Sgwrs Wicipedia:Eginyn

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

dwi ddim wedi cyfrannu llawer at wicipedia hyd yma; er y byddwn yn hoffi cyfrannu mwy, does dim llawer o wybodaeth yn fy mhen i'w chyfrannu! dwi chwaith ddim yn siwr pwy sydd 'in charge' yma na ble mae trafod materion sy'n codi o dro i dro..?

un peth sydd yn fy nharo i'n rhyfedd ar wicipedia weithiau yw trefn brawddegau. i fi, byddai

Eginyn yw'r erthygl hon

yn fwy naturiol na

Mae'r erthygl hon yn eginyn

gan mai rhywbeth bach yw eginyn; yn Gymraeg mae gwahaniaeth (Bachgen bach yw Dewi, ond mae Rhodri yn fachgen mawr). os yw pobl eraill yn cytuno, a fyddai modd newid y frawddeg hon, gan ei bod yn codi mor aml?

efallai y byddai "Gallwch ei helpu i dyfu" yn gywirach hefyd.

os felly, "Eginyn yw'r erthygl hon. Gallwch ei helpu i dyfu"

Osian 16:24, 26 Rhagfyr 2006 (UTC)[ateb]

Annwyl Osian, I think you know better than I do which is more acceptable. I will leave it to Adam to give his point of view. Deb 23:51, 5 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]

Yr ail yn well yn fy marn i. Ond Gallwch (neu gellwch) helpu iddi dyfu fel y mae (rwyt ti'n helpu yn gyffredinol, nid helpu'r erthygl fel pe bai'n blentyn, onide?). Daffy 00:32, 6 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]
wrth gwrs, diolch Daffy! fi gamddehonglodd y gwreiddiol! Osian 00:36, 11 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]
Beth am Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu iddi dyfu.
neu Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch gynorthwyo Wicipedia drwy ychwanegu ati. ? Lloffiwr 12:11, 7 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]
sdim gwahaniaeth gen i beth wnawn ni, ond gwell newid o beth sydd yna'n barod, cytuno? yr unig beth sy angen ei gofio yw bod eginyn yn wrywaidd. dwi'n hoffi awgrym Lloffiwr, heblaw bod gen i rywbeth yn erbyn cynorthwyo. Be am Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato. iawn? neu oes gwelliannau/awgrymiadau pellach? mae braidd yn od bod eginyn yn wrywaidd ac erthygl yn fenywaidd, ond mae fersiwn Lloffiwr yn gwneud hynny'n llai dryslyd na fy un i ("eginyn yw'r erthygl hon" a wedyn rhoi "iddo"...) Osian 00:36, 11 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]
cytuno. Lloffiwr 13:48, 13 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]
iawn. oes rhai yn anghytuno/gwrthwynebu newid? os nad oes, pwy sydd â'r Grym i newid y geiriad? Osian 20:20, 28 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]