Sgwrs:Newfoundland a Labrador

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Enwau lleoedd[golygu cod]

Pam wnest ti symud "Y Tir Newydd a Labrador" i "Newfoundland a Labrador" ac "Ynys y Tywysog Edward" i "Prince Edward Island", a newid "Caerfuddai" i "Chicester"? —Adam (sgwrscyfraniadau) 10:23, 4 Medi 2006 (UTC)[ateb]

Tri rheswm:
  1. Yn ôl canllawiau arddull y Wicipedia Cymraeg, dylid dilyn yr Atlas Cymraeg Newydd. Yr hyn a geir yno am y llefydd hyn yw Newfoundland, Prince Edward Island (ynghyd â'u cyfieithiadau Ffrangeg) a Chichester (dim Cymraeg, er bod yr Atlas yn defnyddio ffurf Gymraeg ar enwau lleoedd yn Lloegr ym mhob achos arall).
  2. Yr unig reswm a wela i dros anwybyddu'r Atlas byddai pe bai defnydd y rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg yn groes i awgrymiadau'r Atlas. Ond mae chwiliadau Google yn cytuno mwy neu lai â'r Atlas:
    • yn Chichester -wikipedia: 9 enghraifft yn eglur yn Gymraeg, yng Nghaerfuddai -wikipedai: dim
    • yn/ar Newfoundland -wikipedia: 13 (gan gynnwys un gan Fwrdd yr Iaith yn cyfeirio at y dalaith fel Newfoundland a Labrador: www.bwrdd-yr-iaith.org.uk/download.php?id=1825.2), yn/ar y Tir Newydd: dim yn cyfeirio at Newfoundland
    • mewn achos Prince Edward Island, mae'n anodd dweud: ceir dim enghreifftiau o yn/ar Ynys y Tywysog Edward na yn/ar Prince Edward Island. Ceir un enghraifft o ar Ynys Prince Edward. Ar gyfer Ynys y Tywysog Edward ei hun (-wikipedia), does dim enghreifftiau o gwbl; mae Ynys Prince Edward -wikipedia yn ymddangos dwywaith; wrth gwrs, mae'n amhosib gwahaniaethu rhwng Prince Edward Island ar dudalennau Cymraeg ac enghreifftiau ar dudalennau Saesneg.
  3. Dyw'r termau hyn ddim yn draddodiadol ar gyfer y llefydd hyn yn y Gymraeg. Wn i ddim pwy fathodd Caerfuddai ar gyfer Chichester ond dyw hi ddim yn draddodiadol (yn wahanol i enwau lleoedd eraill megis Caerlŷr a Caerloyw). Bathwyd y Tir Newydd gan Bruce Griffiths yng Ngeiriadur yr Academi, ac mae canllawiau Wicipedia yn awgrymu rhoi'r flaenoriaeth i'r Atlas.
Felly... dwi'n gweld lle i ddadlau dros Ynys Prince Edward yn hytrach na Prince Edward Island. Yn yr achosion eraill, does dim sail dros ddefnyddio'r termau wedi'u Cymreigio. Oes rhesymau 'da ti dros ffafrio'r termau Cymreigedig? Daffy 14:19, 4 Medi 2006 (UTC)[ateb]
Digon teg. Mae enwau lleoedd yn y Gymraeg yn bwnc dadleuol iawn (gweler y sgwrs yma o ddwy flynedd yn ôl), felly mae'n well dilyn rhyw canllawiau. —Adam (sgwrscyfraniadau) 19:10, 7 Medi 2006 (UTC)[ateb]
Doh! Dwi wedi neud y newid i ddilyn Geiriadur yr Academi cyn sylwi ar y sgwrs yma. Rhaid imi ddweud, serch hynny, bod Yr Atlas Cymraeg Newydd yn ffiaidd o wael o safbwynt cysondeb a safon iaith. Er enghraifft: Un peth yw defnyddio enwau brodorol ar gyfer dinas, peth arall yw defnyddio enw sydd ddim nac yn enw Cymraeg nac yn enw brodorol ond yn enw Saesneg ar gyfer gwlad, fel yn achos Latvia. Mae'n syndod imi fod y Wicipedia yn rhoi blaenoriaeth i lyfr mor wael â'r Atlas. Os oes unrhywun y dylid ei ddefnyddio fel canllaw safon iaith, dylai fod y rhai a ddefnyddier gan arbenigwyr iaith a llenyddiaeth y Gymraeg yn y prifysgolion.Sanddef 13:49, 8 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]
I ailagor y ddadl eto, hoffwn bwyntio allan mai 'Newfoundland' (yr hen dalaith/ardal) a geir yn y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru a hefyd yn Hanes Cymru gan John Davies. Hyd y gwn i does neb yn defnyddio "Y Tir Newydd" ar lafar chwaith. Deudwch wrth rywun eich bod yn mynd "i'r Tir Newydd" am eich gwyliau ac mi welwch nad yw'n golygu fawr ddim i bobl. Fy ymateb i fyddai "Pa dir newydd?"! Anatiomaros 20:06, 7 Medi 2007 (UTC)[ateb]
Dwi'n cytuno. Y broblem yw does dim tystiolaeth o gwbl bod unrhywun yn defnyddio'r enw Y Tir Newydd ar gyfer Newfoundland. Pe bai gyda ni enghreifftiau ar y We (neu, yn well fyth, llyfr daearyddiaeth Cymraeg) o bobl eraill yn defnyddio hyn fel term, byddai'n sefyllfa hollol wahanol. Ond ni yw unig bobl sy'n defnyddio Y Tir Newydd, er bob pobl eraill yn siarad am yr ynys honno ac yn ei galw'n Newfoundland yn y Gymraeg. Fydd neb yn ein deall ni, ac mae pethau fel 'na yn peri i'r Wici Cymraeg edrych yn chwerthinllyd i bobl y tu allan. Daffy 19:13, 11 Medi 2007 (UTC)[ateb]
Dyna fy marn i hefyd. Mae 'na berygl bydd y wici Cymraeg yn cael ei drin fel tipyn o jôc os awn i lawr y ffordd yma. Fel rydych yn ddweud, pe bai tystiolaeth gennym fod llyfrau safonol yn defnyddio'r ffurf, iawn, buasai gennym ni reswm da i'w dilyn, ond does 'na ddim, hyd y gwn i. "Os oes unrhywun y dylid ei ddefnyddio fel canllaw safon iaith, dylai fod y rhai a ddefnyddier gan arbenigwyr iaith a llenyddiaeth y Gymraeg yn y prifysgolion," meddai Sanddef uchod, ond ble mae'r enghreifftiau o "Y Tir Newydd" ganddyn' nhw? Ac yn bwysicaf byth, dwi ddim yn meddwl fod unrhyw un yn ei ddefnydio ar lafar (ac eithrio Bruce Griffiths efallai, pob parch iddo!). Dwi'n awgrymu symud hyn i Newfoundland a Labrador yn y dyfodol agos. Anatiomaros 19:48, 11 Medi 2007 (UTC)[ateb]