Sgwrs:Yr Ardro

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Enw Cymraeg?[golygu cod]

Er bod y pentre reit ar y ffin, mae "Yardro" yn swnio fel Seisnigiad o enw Cymraeg. Oes rhywun yn gwybod beth ydyw? Anatiomaros (sgwrs) 01:59, 27 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]

Yr hen enw Cymraeg oedd 'Cae Llwyd' (a gofnodwyd fel Kay Lloyd) yn ol The Dict. of W Place-Names (Owen / Morgan) tud 499. Ond gan fod dwy elfen o'r gair yn Gymreig: ar a dro, mae'n ddigon posib mae Cym ydyw ac nid OE. Dywed TDOWP y ceid Yardroue arall - yn Swydd Gaer a gofnodwyd yn 1327. Cyd-ddigwyddiad fod y fan honno hefyd led cae o Gymru! Ond gan nad oes ffynhonnell eilradd, efallai mai gwell fyddai mynd am 'Gae Llwyd (hefyd: Iardro)'. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:57, 27 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]
Diolch gyfaill. Difyr iawn. Cofiais am hyn jest rwan cyn dod ar-lein heno. Yn ôl fy hen gopi ffyddlon o'r 'Map o Gymru yn Gymraeg' (Cyhoeddiadau Stad, dechrau'r 1990au), 'Yr-Ardro' yw'r enw. Felly dwi am fentro symud hyn i 'Yr Ardro' (mae'r heiffen yn ansafonol a diangen yn fy marn i, er mai barn bersonol yw hynny...). Os cawn wybodaeth bellach cawn ni ystyried ei newid eto, ond yn y cyfamser mae 'Yr Ardro' yn well o lawer na "Yardro". Anatiomaros (sgwrs) 00:11, 28 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]