Sgwrs:Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Oes modd dweud bod y rhyfela cyfredol yn ymgyrch swyddogol, echblyg "gan Israel yn erbyn pobl a phlant y Llain Gaza"? Nid yw'n fy nharo i'n ddidduedd. Diau, mae pobl Palesteina wedi, ac yn parhau i ddioddef ar raddfa na ellir mo'i chymharu ag eiddo Israel, ond ydy hyn yn ymgyrch yn erbyn "pobl a phlant" Gaza yn unig?

PS- nid amddiffyn Israel mohonof. Gadawyd y neges hon heb ei harwyddo ar 19:26, 12 Gorffennaf gan Gyfeiriad IP: 2014‎ 2.24.96.56. - Llywelyn2000 (sgwrs) 21:55, 12 Gorffennaf 2014 (UTC)[ateb]

Smai? Mae bron y cyfan sydd wedi'u lladd yn bobl a phlant hy sifiliaid, er bod y gallu technegol gan Israel i dargedu unigolion i'r metr agosaf bron. Nid blerwch ydy hyn ar eu rhan, fel mae'r ffigurau'n dangos. Y dystiolaeth diymwâd ar hyn o bryd ydy bod bron i 100 yn blant ac yn bobl cyffredin. Dyma ffordd Israel o ddial. Dw i ddim yn cytuno efo ti fod dweud ffaith yn bias. Pe bai Israel wedi llofruddio / lladd 125 aelod o Hamas, a dim un sifiliad yna mi fasa'r frawddeg yn anghywir. Dw i hefyd wedi ychwanegu'r ochr arall - y taflegrau o Gaza i Israel a llofruddio'r tri Israeliad ifanc. Gobeithio'n wir fod yr erthygl yn ddiduedd, fel pob erthygl arall ar Wicipedia: yn wahanol i en, ble mae'r duedd bron yn gyfangwbwl yn erbyn y Palesteiniaid. Diolch am wneud i mi feddwl! Llywelyn2000 (sgwrs) 21:52, 12 Gorffennaf 2014 (UTC)[ateb]
Nid wy'n herio'r ffaith taw sifiliaid yw'r mwyafrif llethol o'r meirwon a'r clwyfedig hyd yn hyn (ac yn wir, yn hanesyddol yn hyn o wrthdaro), ond, a ellir dweud mai targedu sifiliaiad yw nod swyddogol, echblyg a chydnabyddedig Israel? Oni bai bod Israel yn cyhoeddi taw hyn yw ei hamcan, credaf na ddylwn ddweud yn yr erthygl mai ymgyrch yn erbyn sifiliaid Palesteina yw'r ymgyrch hon. 2.24.96.56
Teimlaf y dylwn ychwanegu fy mod i o'r farn fod pobl Palesteina yn bobl dan orthrwm; nhw sydd yn dioddef yn y gwrthryfela hwn, ond heriaf y gosodiad mai y boblogaeth gyfan yw targed yr ymgyrch benodol hon. Petai hynny'n wir, oni fyddai'n hil-laddiad? 2.24.96.56
Golygais yr erthygl i'w gwneud yn fwy niwtral. Rydych chi'n cyfleu ffeithiau yr ymgyrch, ond rydych yn mynd rhagoch i'w dehongli mewn modd goddrychol iawn: ee, ymgyrch yn erbyn sifiliaid ydyw, byddin Israel yn lladd Palestiniaid 'fel dial'. Nid adrodd ffeithiau yn wrthrychol mo hyn. 01:17, 13 Gorffennaf 2014 (UTC) 2.24.96.56
Rwy'n deall nad oes llun cyfredol ar gael, felly nid yw'n synhwyrol defnyddio hen lun sydd ddim yn gysylltiedig â'r mater gerllaw, yn enwedig pan fo'r llun hwnnw'n ddetholus iawn. 2.24.96.56
Diolch. Ar y dydd olaf o Fehefin fe drafododd Llywodraeth Israel a fyddent yn dial neu beidio. "Dial" yw'r union air! - gweler yma: The Israeli government debated possible retaliatory action for the killings of three Israeli teenagers whose bodies were found. a hefyd geiriau Benjamin Netanyahu ei hun: (Benjamin Netanyahu) had threatened the militant group Hamas with retaliation for the teens’ deaths. “Hamas is responsible and Hamas will pay,” Dial swyddogol yw hyn, fel mae eu crefydd a'u deddfwriaeth yn ei ganiatáu ac mae'n gwbwl gywir i ni roi ffeithiau fel hyn yn yr erthygl. Yn wir, mae peidio a chyhoeddi hyn yn gam mawr ar y darllenydd. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:55, 13 Gorffennaf 2014 (UTC)[ateb]

Rydych chi wedi ategu pob gosodiad yn yr erthygl gyda thystiolaeth gadarn, dydw i ddim yn amau hynny; credaf i y dylid traethu'r wybodaeth hynny mewn ieithwedd fwy niwtral. Mae Israel yn wir yn manteisio ar bob 'cam' a wneir â hi gan y Palesteiniaid, sydd, ar y cyfan, ond yn amddiffyn eu hunain, neu yn mynegi eu gofid a'u dioddefaint yn yr unig ffordd sydd ar ôl iddynt; ac yn wir, mae cyfraith ryngwladol wedi cael ei sathru gan Wladwriaeth Israel. Ond, oni thraethir y wybodaeth, y ffeithiau hyn, mewn modd cwbl niwtral, fydd y wybodaeth honno'n colli rhywfaint o'i hing. Serch hynny, rwy'n hapus ag ansawdd ye erthygl; mae'n well nag unrhyw beth y byddwn i fedru'i gwneud! Chwarae'r devil's advocate ydw i fan hyn, yn sicrahu bod pob peth yn hollol dynn. 2.24.96.56