Sgwrs:Tegai

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Untitled[golygu cod]

Beth am greu tabl o'r seintiau, gan nodi pob eglwys a alwyd ar eu holau hefyd. Gwaith hirfaith, ond defnyddiol iawn dwi'n siwr? Unrhyw syniadau? Llywelyn2000 22:52, 4 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Mae'n syniad ardderchog, Lywelyn, ond mae'n golygu llawer iawn o waith. Wyt ti'n gwybod fod gennym ni y rhestr (hynod angyflawn) Rhestr o seintiau Cymru? Un o'r anawsterau ydy fod 'na sawl ffurf ar enwau rhai o'r seintiau, yn ôl y ffynhonnell: amrywiadau yn ffurf yr enwau Cymraeg a hefyd rhwng yr enw[au] Cymraeg a'r fersiwn/fersiynau Saesneg. Hefyd mae'n ansicr yn achos rhai o'r seintiau llai os ydy'r enw yn cyfeirio at un sant neu santes neu at dau neu dri dan yr un enw. Cymhleth, a deud y lleia! Efallai mai ehangu'r rhestr sydd gennym ni yn barod ydy'r peth gorau am rwan ac wedyn, yn y dyfodol, gellid defnyddio hynny fel sail i drefn fel yr un rwyt ti'n awgrymu? Anatiomaros 23:06, 4 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
ON Dwi'n mynd i gopio hyn i sgwrs Rhestr o seintiau Cymru - mwy priodol fan 'na efallai? Anatiomaros 23:06, 4 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Cytuno. Mam inni yw amynedd. A beth bynnag, efallai bod canolbwyntio ar faterion eraill, mwy cyfoes (megis y wyddoniaeth mae Rhys Huw ac eraill yn ei wneud ar hyn o bryd yn llawer pwysicach.) Mi wn am sawl ysgol uwchradd sy'n defnyddio Wicipedia'n rheolaidd. Diolch gyfaill. Llywelyn2000 23:13, 4 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Croeso. Nôd tymor hir arall, un o'r ugeiniau... Dydi o ddim yn flaenoriaeth ond basai'n ddiddorol, er hynny. Anatiomaros 23:21, 4 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]