Sgwrs:Siambr gladdu Garn Goch

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Pipton Long neu Garn Goch ydy hyn i fod? Angen cywiro. Anatiomaros 17:26, 10 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Hefyd, ger Pipton mae'r heneb ac felly Siambr gladdu Pipton yw'r enw nid '...Pipton Long' - roeddwn i'n meddwl y tro cynta fod hynny'n edrych yn rhyfedd! :-) Anatiomaros 17:45, 10 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Ble gest ti'r gair Garn Goch, Anat? Roedd yr OS yn anghywir; a'r enw - fy mai i, nid Cadw y tro yma! Llywelyn2000 19:46, 10 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Garn Goch? Dyna oedd gen ti i ddechrau yn y testun gwreiddiol ([1]) ond gyda "Siambr gladdu Pipton Long" fel enw'r dudalen. Dyna pam roeddwn i'n drysu - methu deall at be roedd yr erthygl yn cyfeirio, heneb Pipton neu'r Garn Goch! Dwi'n gwybod dim o gwbl am heneb Garn Goch. Ond mae 'na siambr gladdu (chambered tomb) ger Pipton, de Powys, a nodir fel 'Pipton long cairn' yn llyfrau Helen Burnham a Christopher Houlding. Anatiomaros 20:12, 10 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Wyt ti'n siwr fod y manylion am hyn yn iawn, Llywelyn? Dwi wedi cael hyd i Garn Goch, ger Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin. Mae'n safle reit ddiddorol. Bryn ydyw. Ceir dwy gaer a siambr gladdu yno. Mae 'na lun ar Gomin. Dwi'n amau mai Garn Goch Sir Gâr ydy ein 'Siambr gladdu Garn Goch'. Os felly dwi'n meddwl fod hyn yn enghraifft lle byddai cael un erthygl am y safle gyfan (a'r bryn ei hun, sy ddim o amlygrwydd arbennig fel arall) yn gwneud mwy o synnwyr. Amlwg fod perthynas rhwng y ddwy gaer a'r siambr gladdu felly pam dorri hyn yn dair erthygl? Basa'n well cael nhw i gyd gyda'i gilydd a chreu'r dudalen Garn Goch. Be ti'n feddwl? Hwyr heno, tawaf felly... Anatiomaros 23:51, 10 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Rhwng Aberllynfi a Llyswen mae'r cyfeirnod yn fy nanfon i. Rho glic ar y cyfeirnod glas a chei ddewis map. Parthed rhannu / cyfuno: dw i yn teimlo fod angen cyfeiriad neu ddolen i'r erthyglau hyn o'r pentrefi / trefi agosaf, ac fe ddaw hynny gydag amser. Efallai, hefyd, y dylid edrych ar yr henebion ar wahan, yn gyffredinol; os ydyn nhw'n ddigon pwysig i dderbyn rhif SAM a'u cofrestru ar wahan ar Coflein (waith faint sydd yn weladwy o'r gofeb) yna fe ddylem ninnau wneud yr un peth er mwyn trefn, er mwyn categoreiddio nhw,n daclus ac er hwylustod eu darganfod nhw. Os oes dau gofeb tebyg, yn agos at ei gilydd yna mae dadl dros eu huno. Llywelyn2000 04:24, 11 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Mae'r cyfeirnod yn anghywir, dyna pam. Cyfeirnod heneb Pipton ydyw, nid Garn Goch (gweler yma). H.y. mae'n gywir fel cyfeirnod yr heneb arall ond nid am hon. Rwyt ti'n iawn am ddolenni o'r pentrefi ayyb - diffyg amser i'w wneud eto. Dwi ddim yn siwr am dy ddadl dros ystyried fod pob heneb ar restr Cadw yn haeddu erthygl ar wahân. Y rhan fwyaf, efallai, ond nid pob un. Yn achos dwy heneb sy'n bur ymylol o'r un dosbarth ac sy'n digwydd sefyll yn yr un cae neu ar lethr yr un bryn dwi ddim yn gweld llawer o bwynt. Mae'n dibynnu faint sydd 'na i'w ddeud amdanynt. Yn achos henebion Garn Goch, mae'r siambr gladdu yn gorwedd o fewn un o'r bryngaerau ac mae'r ddwy fryngaer yn gorwedd ar yr un bryn, felly mae 'na ddadl gref dros gael un erthygl dda yn lle tri eginyn pitw. Gellir categoreiddio'r erthygl yn ôl y cynnwys - sdim problem fan'na. Gellid dadlau hefyd fod archaeoleg ddiweddar yn rhoi pwyslais mawr ar dirweddau hanesyddol hefyd. Anatiomaros 22:25, 11 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Hefyd, mae rhai henebion i'w cael mewn grwpiau beth bynnag. Er enghraifft, "Cylchoedd cerrig Nant Tarw", safle lle ceir dau gylch cerrig, maen hir a charnedd. Mae'r cyfan yn perthyn i'w gilydd fel safle defodol, yn ôl yr archaeolegwyr, ac yn gorwedd ar yr un darn o dir. Mi fasai'n wirion i dorri'r erthygl (fer!) i fyny. Anatiomaros 22:31, 11 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Y Garn Goch a'i henebion (crynhoad)

Ar ôl ychydig o waith ymchwil dwi wedi datrys hyn. Dyma'r sefyllfa:

  1. Mae angen gywiro enw'r erthygl hon beth bynnag. Ceir dwy siambr gladdu ar y safle.
  2. Mae'r erthygl hon - sef Caer Fawr (Llangadog) - yn ategu hynny (Llywelyn, ti piau hi!).
  3. Mae Caer Fawr (Llangadog) yn un o'r ddwy gaer ar lethrau'r Garn Goch. Ceir erthygl am y mynydd hwnnw ar en (en:Garn Goch). Dyma'r ddisgrifiad yn yr adran 'Archaeoleg': "Y Garn Goch is notable for the two impressive Iron Age hill forts of Y Gaer Fawr, (English: the big fort) and Y Gaer Fach, (English: the little fort), together the largest in south Wales. There is evidence on site of occupation possibly from Neolithic times through to the Mediaeval period though not necessarily of a continuous nature. Bronze Age burial mounds are a significant feature of the site." Mae hyn hefyd yn cadarnhau be dwi'n deud.

Er nad oes rhaid i ni ddilyn 'en' a chael un erthygl am y cyfan gellid dadlau fod hynny'n gwneud synnwyr yma: mae'r mynydd ei hun yn haeddu sylw fel safle'r pedair heneb hyn ac mae cael pum erthygl (y mynydd, 2x gaer, 2x siambr gladdu) yn lle un yn mynd dros ben llestri braidd. Efallai fod y gaer fwyaf yn haeddu erthygl gyfan am ei bod yn un sylweddol ond mae angen un am Y Garn Goch sy'n cynnwys disgrifiadau o'i henebion yn ogystal. Anatiomaros 16:04, 24 Hydref 2010 (UTC)[ateb]