Sgwrs:Rhestr o grugiau crynion yng Nghymru

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Ambell bwynt[golygu cod]

  1. "Ysbyty Ifan: Crug crwn Hwlffordd"? Does posibl?
  2. Yn dilyn o hynny, rhyfedd nad oes adran am grugiau crynion Sir Benfro.
  3. Fel arfer, dwi ddim yn sicr am ddilysrwydd pob enw Cymraeg(aidd) Cadw, ond mae 'na ormod yma i fedru'u gwirio nhw i gyd.

Dwi wedi cywiro ambell beth mân yn y templad hefyd (Llywelyn, cofia wirio'r categoriau i gael y sir yn iawn neu fydd 'na beth andros o waith i'w wneud!). Anatiomaros 20:21, 3 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]

Hefyd, rhoddir 'Crug crwn y Gop' ar y rhestr. Ond carnedd ydy'r Gop, nid barrow. Mae cyfeiriad at "Axton Barrows", Trelawnyd yn llyfr Helen Burnham (Cadw/HMSO) - ai dyma'r crug crwn felly? Mae'n filltir i'r gorllewin o'r Gop (SJ 104803). Siawns fod ambell lithriad arall ar y rhestr hefyd, ond does dim gobaith o wirio pob un ohonynt! Anatiomaros 20:37, 3 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]

Un arall:

Oes dau le o'r enw (Y) Trallwng ym Mhowys? 'Mond y dre adnabyddus sy'n gyfarwydd i mi. Anatiomaros 21:00, 3 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]

Diolch. 1. Ia, Hwlffordd ydy enw'r fferm, sy'n rhoi ei enw i'r crug. Edrych ar SH952653. 2. Dw i heb ychwanegu rhai Sir Benfro eto. Mae na lwyth! 3. Crug y Gop: Ydy o'r un un? Dyma'r cyfeirnod OS: SJ088801.

Fel dw i wedi dweud o'r blaen dw i'n derbyn data Cadw fel ag y mae, ond gyda phinsiad o siniciaeth. Ond dyna'r corff safonol a dw i'n meddwl fod yn rhaid i ni dderbyn eu label nhw.

Y Trallwng: mater bach ydy eu huno nhw i gyd o dan "Crugiau Trallwng". Llywelyn2000 21:56, 3 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]

Diolch Llywelyn. Re: "Crug y Gop: Ydy o'r un un? Dyma'r cyfeirnod OS: SJ088801." Cyfeirnod Y Gop ydy SJ086802 felly mae'n amlwg nad y garnedd wirioneddol anferth honno a olygir wrth 'Crug y Gop' (a diolch byth am hynny, achos yn bendant mae'n garnedd neolithig, nid round barrow!). :Diddorol fod Hwlffordd arall yn Ysbyty Ifan - rhaid i mi chwilio geirdarddiad yr enw rywbryd.
Ia, roeddwn i'n amau bod nifer o'r henebion hyn yn Sir Benfro.
Y Trallwng: ia, mae hynny'n gwneud synnwyr.
Wrth dy bwysau, gyfaill - does dim brys. Gyda llaw, dwi'n sylwi fod Cadw yn defnyddio'r cymunedau lleol i nodi'r lleoliad, nid pentrefi. Gwell diwygio'r lleoliadau i "yng nghymuned [Llanunlle]" felly? Anatiomaros 22:46, 3 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]