Sgwrs:Rhestr o gestyll mwnt a beili Cymru

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Bendigedig! Diolch Anât am dy ofal trylwyr, arferol yn cywiro / golygu'r enwau. Llywelyn2000 16:04, 22 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Dim problem! Cwestiwn bach: Ai dyma'r cyfan sy gan Cadw? Dim ond un sy ganddyn nhw yng Ngheredigion, er enghraifft, ond cofnodir safleoedd dros ugain ohonynt yn Cestyll Ceredigon gan Afan ab Alun. Mae 'na ambell un amlwg ar goll hefyd, e.e. Tomen y Mur, Tomen y Bala. Rhyfedd iawn. Anatiomaros 16:07, 22 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Pa hwyl? Nage. Mae ganddyn nhw o leia 130 'motte' - heb y beili! Fe ddaw'r rheiny cyn hir, os ydy hynny'n iawn. Llywelyn2000 16:17, 22 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Diolch, dwi'n deall rwan. Tueddu i lwmpio nhw i gyd gyda'i gilydd dwi, ond mae Cadw yn fanwl gywir yn eu dosbarthiad, wrth gwrs. Falla bod gan rai o'r rhain enwau Cymraeg go iawn hefyd, ond mi gymrith amser i chwilio. Mae pethau'n siapio! Anatiomaros 16:30, 22 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Mater bach ydyw i mi ychwanegu Cyferusynnau x ac y, yn ogystal a chyfeiriad OS. Beth ydech chi'n ei feddwl? Os oes eu hangen, yna ym mha fformat mae eu rhoi / cyhoeddi? Llywelyn2000 16:32, 22 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Cymer olwg ar: Mwnt a Beili Trecastell plis. Os y bydd cangym yn hwnnw, yna mi fydd yn cael ei luosi yn y gweddill. Duw a'n gwaredo! Llywelyn2000 16:36, 22 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Wedi cywirio'r categoriau a chreu un newydd: Categori:Cestyll mwnt a beili Cymru. Methu gweld unrhyw beth amlwg o'i le efo'r testun ei hun. Anatiomaros 16:45, 22 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Yr adran newydd[golygu cod]

Cyn i ti gychwyn, Llywelyn, sbia ar Sgwrs:Castell Du Llandeilo. Diolch. Anatiomaros 21:52, 23 Hydref 2010 (UTC)[ateb]