Sgwrs:Rhestr o fryngaerau Cymru

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

O! Bendigedig! Dyma'r tro cyntaf i mi weld hwn! Diolch. Ryw dro, mi hoffwn greu rhestr o'r deg mwyaf. Gormod o waith am y pythefnos nesaf! Daw dydd... Llywelyn2000 23:28, 2 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Diolch! Ia, mae'n tyfu. Darllenais rywle fod tua 500 o fryngaerau, mawr a bychain, yng Nghymru, felly mae 'na dipyn o ffordd i fynd eto (ond o leia rydym ni'n curo'r "lle arall" yna....!). Anatiomaros 23:35, 2 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Onid yr un lle yw Pen Dinas (Banc Mynydd Gorddu) a Pen Dinas (Aberystwyth)? Porius1 11:07, 5 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Hollol, hyd y gwelaf i. Hefyd, os ydym am symud hyn (Pen Dinas) mae angen troi Pen Dinas yn dudalen wahaniaethu neu dydy o ddim yn gwneud synnwyr.
Pwynt arall. Ymataliais rhag ehangu'r rhestr gan feddwl ei fod yn well aros am yr erthyglau yn gyntaf. Mae gen i restr weddol gyflawn o fryngaerau Gwynedd (hen), er enghraifft, ond yn achos y rhai bychain does dim byd llawer i'w ddweud amdanynt oni bai fod gan rywun wybodaeth leol a/neu gopi o gyfrolau drud yr RCHAM wrth ei benelin - a hyd yn oed yn y cyfrolau hynny y cwbl a geir yn aml ydy nodi'r lle a dyna'r cwbl. (I ddod yn ôl at y pwynt cyntaf, enw sawl un o'r caerau llai hyn yw rhywbeth llawn dychymyg fel 'Dinas'!). Anatiomaros 16:02, 5 Medi 2010 (UTC)[ateb]
ON Yn achos y safleoedd llai, beth am eu nodi heb ddolenni wici am rwan, er mwyn osgoi troi hyn yn rhestr faith o ddolenni coch sy'n anhebygol o gael eu llenwi? Anatiomaros 16:05, 5 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Syniad da; a rhoi dolenni ar y rhai mwyaf i ni gael hwb i fynd ati i greu erthyglau arnynt. Porius1 17:24, 5 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Cytuno. Llywelyn2000 21:00, 5 Medi 2010 (UTC)[ateb]