Sgwrs:Rhestr o feysydd pêl droed yn ôl cynhwysedd

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Cam-gyfieithiad ac awgrym ail-gyfeirio[golygu cod]

Dw i'n meddwl mai fi sy'n gyfrifol am y cam-gyfieithiad yma. Tydy geiriadur yr Academi ddim yn gynig dim byd addas iawn. Beth am newid y geirio ar y Nodyn:Gwybodlen Clwb pêl-droed i rhywbeth syml fel 'Maes yn dal', ac ail-gyfeirio'r dudalen yma (os ydy hi werth ei chadw) at Maesydd chwaraeon Cymru - tydy hyn ddim yn ddelfrydol chwaith a dweud y gwir, gan bod dolen at y dudalen yma o erthyglau am glybiau pêl-droed o ar draws y byd.--Ben Bore 11:33, 14 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Dwi'n cytuno, mae cynhwysedd yn anghywir, felly maen angen rhywbeth gwell fel "seddi" neu "maes yn dal" Blogdroed (sgwrs) 15:53, 30 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]

"Maint" neu "lle" yw'r hyn a awgrymir gan GyA. Os wyt am adfer y peth, cer amdani, a newid yr enw hefyd - "pêl-droed" yw e. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 16:24, 30 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]
Nifer y seddau / gwylwyr? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:59, 1 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]
Diolch am yr awgrymiadau. Allwn ni ddim defnyddio 'Nifer y seddau' gan lle ar gyfer i wylwyr sefyll mewn rhai meysydd (diolch byth!). 'Mae y gwylwyr' yn agrwymu sqwl un ddaeth i wylio gem penodol. Dw i'n hoffi'r cynnig 'Maes yn dal' ac am ei newid i hwnnw oni bai bod rhywrai'n gwrthwynebu.--Ben Bore (sgwrs) 09:26, 2 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]