Sgwrs:Proest

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Englyn proest dalgron[golygu cod]

Mae hyn yn fy nrysu. Mae "proest" yn wrywaidd, felly pam y ceir englyn proest dalgron? Mae englyn yn wrywaidd wrth gwrs, felly ni all yr ansoddair gyfeirio at yr englyn, ac mae "proest" hefyd yn wrywaidd. Mae'r gwrth-ddweud hwn yn Cerdd Dafod hyd yn oed. Un funud mae JMJ yn sôn am "broest cadwynog", a'r funud nesa "proest dalgron". Oes esboniad gan rywun? Diolch yn fawr. Eisingrug 00:00, 19 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Efallai mai jyst camgymeraid "normal" yw e. Mae'r ddau air yn wrywaidd, felly "englyn proest talgrwn" y dylai dwi'n credu. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 00:13, 19 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Dwi'n cytuno â thi oni bai am un peth - John Morris-Jones sydd wedi ei ysgrifennu ac ni alla i ddod o hyd i'r "gyts" i dynnu'n groes ag o! Dwi ddim am ei newid o - mae'n siwr fod yna esboniad yn rhywle oherwydd ni fyddai JMJ yn gwneud camgymeriad mor sylfaenol â hynna! Diolch i ti. Eisingrug 00:17, 19 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Mae gennyf finnau'r gyts i wneud fe os wyt ti isio imi, haha! ;) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 00:20, 19 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Fel ambell he-she mae'r gair proest hefyd yn ddeuryw ac felly ceir treiglad. Gweler Geiriadur Prifysgol Cymru Rhif lll, tudalen 2901. Sonir dan yr un gwynt am "broest gadwynawg". A chytunaf gyda Glenn: os ydy rheolau JMJ wedi'u dyddio - torrer hwynt! Llywelyn2000 06:09, 19 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Dwi'n deall bod angen cysondeb ond fedra i ddim deud "proest talgrwn". Nid yw'n swnio'n iawn rhywsut; yn yr un modd nid yw "y cwpan" yn swnio'n iawn i mi. "Proest lafarog" fyddwn i'n tueddu i'w ddweud hefyd. Daw'r termau "proest dalgron" a "phroest gadwynog" allan o Ramadeg Einion Offeiriad, felly maent tua saith can mlwydd oed. Dwi'n credu y dylem gadw neu o leia barchu'r termau hyn gan mai'r rhain sydd wedi'u gwreiddio (boed anghywir neu gywir) yn y traddodiad, felly efallai bod ymosod arnynt gyda rheolau gramadeg braidd yn bedantaidd o'm rhan i. Eisingrug 17:31, 19 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Mae'r dewis yn syml yn tydy:
Cadw y gair proest fel enw gwrywaidd ac fel hyn, torrir un o brif reolau'r Gymraeg o dreiglo ar ôl enw benywaidd, torrir rheolau gramadeg ar allor "cadw neu o leia barchu'r termau..."
...neu dderbyn (fel y dywed GPC) fod y gair proest yn hifin-hafan o air (fel munud ayb) ac y gall fod yn fenywaidd, a thrwy hynny boddheuir y rheolau (proest lafarog, proest dalgron ayb). Mater o arferiad wedyn ydy i dy glust dderbyn neu wrthod "y broest" yn enw benywaidd. Gyda llaw "y cwpan hwn" da ni'n ei ddweud yn naturiol; mater o arferiad ydy o. Gan mai ti sgwennodd yr erthygl, dewis di, ond awgrymaf dy fod yn cyfeirio at y ddwy ochr. Llywelyn2000 20:36, 19 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Dwi'n deall dy ddadl, ond fel gwyddoniadur dydy hi ddim i fyny i ni i newid termau safonol. Cofier fod 'proest' yn enw gwrywaidd benywaidd ac felly mae'n rhaid bod rheswm hanesyddol dros hyn, sy'n groes i'r drefn arferol (e.e. 'englyn proest cadwynog'). I dorri'r ddadl, be sy gan llawlyfrau diweddar i'w ddweud? Anatiomaros 21:43, 19 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Os yw "proest" yn efô-hyhi, yna mae'r ddadl wedi'i thorri am wn i. Mi wnai drio cymharu'r llyfrau yfory. Fy mai i ydoedd am ymgynghori â'r Odliadur a'r Geiriadur Mawr yn unig - be o'n i'n ddisgwyl?!
Mae "cwpan" hefyd yn efô-hyhi yn ôl pob tebyg. Beth bynnag. Eisingrug 22:57, 19 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Hyd y gwela i, ni cheir cyfeiriad at "broest dalgron/talgrwn" o gwbl yn "Anghenion y Gynghanedd", ond caiff "proest" ei drin fel enw gwrywaidd ynddo. Er ei fod yn anghyson, mi wna i drin "proest" fel enw gwrywaidd drwy'r erthygl oni bai am "broest dalgron" oherwydd nid oes gen i ffynhonnell sy'n dangos defnydd o "proest talgrwn". Eisingrug 23:28, 21 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]