Sgwrs:Plas Maenan
Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a chewch restr o bethau sydd angen eu gwneud. Ychwanegwch y nodyn hwn i unrhyw dudalen sy'n ymwneud â Chymru neu Gymry. |
Enw[golygu cod]
Fel dwi wedi esbonio yn yr erthygl, gwesty yw Plas Maenan. Tybed ai'r coed sy'n gorchuddio'r bryn tu ôl iddo ydy'r SoDdGA? Yn yr erthygl am Maenan ar 'en' mae'n dweud fod y coed hwnnw yn "privately owned woodland being managed as a nature reserve." Coed Tan-yr-allt ydy'r enw Cymraeg am y coed. Ai dyna'r SoDdGA? Ac ai dyna'r enw cywir, er gwaethaf enw swyddogol yr SoGDdA? Os felly - a dwi ddim yn hollol siwr chwaith - dwi'n cynnig symud hyn naill ai i 'Plas Maenan (SoDdGA)' neu 'Coed Tan-yr-allt'. Anatiomaros (sgwrs) 23:32, 8 Ionawr 2014 (UTC)
- Yn ôl gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru, mae'r gwesty ei hun yn SoDdGA oherwydd yr ystlumod sy'n byw yna. Tigershrike (sgwrs) 22:52, 31 Ionawr 2014 (UTC)