Sgwrs:Pi (mathemateg)

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Sgwrs Trydar gyda Gareth Ffowc Roberts; ef yn awgrymu defnyddio pai yn Gymraeg. Unrhyw sylwadau? Llywelyn2000 (sgwrs) 17:44, 11 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]

Mae 'pi' yn gyffredinol i bob iaith yn ei ffurf gysefin, felly dwi'n cytuno y dylid defnyddio'r addasiad Cymraeg 'pei'. Yna, mae'r cysylltiad â 'pi' yn fwy amlwg, am nad yw 'pi' yn Gymraeg yn golygu nac yn awgrymu dim. Er hynny, gellid ei gymysgu â 'pei' (pie), ond mae cyd-destun wastad yn datrys unrhyw ddryswch felly! —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan 86.3.131.203 (sgwrscyfraniadau) 19:21, 11 Mawrth 2015
Sgwrs Trydar
Hyd y gwela i, nid ein barn ni ddylai gyfri, ond barn y mathamategwyr cydnabyddiedig. Tyrd a chyfeiriadau i gefnogi dy ddadl. Dyma ddelwedd o sgwrs ar Trydar gyda Gareth Roberts, un o brif fathemategwyr y Gymru gyfoes. 'Pi' sydd yng Ngeiriadur yr Academi, ac nid ydy'r gair yn y 'Porth Termau. Efallai mai'r ddadl gryfaf dros 'pai' ydy'r polisi ffonetig sydd gennym parthed sillafu geiriau estron yn gyffredinol ee enwau gwledydd. Llywelyn2000 (sgwrs) 22:51, 11 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]
Lladineiddiad o lythyren Roeg ydy pi, ac fe'i defnyddir yn rhyngwladol fel symbol felly dwi ddim yn gweld y ddadl dros gael sillafiad ffonetig - sbïwch ar y dolenni rhyngwici i weld mai pi ydyw ym mhob iaith bron. Dwi ddim yn fathamategwr o gwbl, ond gan fod pi yn air estron buaswn i'n disgwyl iddo gael ei sgwennu mewn italics er mwyn dangos hynny, gan mai dyna'r arfer. Wedyn does dim perygl i rywun ei ynganu fel "pi"(!). Mae "pai" ar lafar yn un peth ond mae "pei" jest yn wirion. Anatiomaros (sgwrs) 00:46, 12 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]
Gareth newydd Drydaru: "Mae'r sylwadau'n ddiddorol. Rwyf wedi defnyddio 'pai' yn gyson mewn cyhoeddiadau (e.e. Mae Pawb yn Cyfrif) heb broblem." Anatiomaros - dw i newydd agor deg rhyng-wici, ac fel y dywedi, 'Pi' ydy'r mwyafrif; ond roedd 4 o'r rheiny'n cynnwys cromfachau, gyda gair, ee ieithoedd an: Numero π, ca: Nombre π, eo: Pi (nombro), hu: Pi (szám). Byddai hynny'n gyfaddawd ac yn debyg i Alffa (llythyren), er mwy ei wahaniaeth oddi wrth y gair pipi (piso), hyd nes y gwelir Geiriadur yr Academi neu'r Brifysgol yn newid eu sillafiad nhw (os y gwnan nhw hynny). Anat: ydy hynny'n dderbyniol? Gareth: ni chaniateir ymchwil gwreiddiol ar y Wicipedia Cymraeg, mwy nag unrhyw iaith arall, felly, mi ddof a hyn i sylw'r tri phrif eiriadur Cymraeg. Diolch eto am godi mater diddorol fel hyn, byddai esiamplau o'ch defnydd o 'pai' yn wych. Croeso i chi daro'r botwm 'Golygu' (uchod) a'u hychwanegu nhw yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:59, 12 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]
Neges ar Trydar gan ‏@techiaith (Y Termiadur): "Ynganiad clasurol π yn y Gymraeg yw 'pi' (nid 'pai', sy'n efelychiad o ynganiad y Saesneg)" We diddorol iawn! Mae'n dangos grym y technolegau cymdeithasol, ac fel rydym yn medru elwa ohonyn nhw. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:53, 12 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]
Difyr iawn! "Pi" (ar ben ei hun) a geir ar fwyafrif llethol y wicis eraill ond wedyn mae'r sefyllfa'n wahanol yn Gymraeg. Dwi'n eitha bodlon ar gael "Pi (mathemateg)" neu rywbeth tebyg (nid yw'n rhif). Mae gennym "Pi (llythyren)" am y llythyren Roeg π, felly gallai Pi gael ei throi'n dudalen wahaniaethu ar ôl ei symud. Swnio'n rhesymol? Anatiomaros (sgwrs) 00:36, 17 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]
Cytuno'n llwyr; o leiaf rydyan ni wedi edrych ar y ddwy ochr a dod i gasgliad! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:35, 22 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]

 Cwblhawyd

Symudwyd i 'Pi (mathemateg)' - Llywelyn2000 (sgwrs) 17:04, 17 Mai 2016 (UTC)[ateb]

Diddweddariad: Y sillafiad Pi a geir ar y Porth Termau Cenedlaethol (Y Termiadur Addysg - Ffiseg a Mathemateg), erbyn hyn, felly hefyd yng Ngeiriadur yr Academi. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:04, 14 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]