Sgwrs:Paul Griffiths

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Gormod o fanion[golygu cod]

Dwi wedi dechrau glanhau hon, yn ieithyddol felly, ond rhoi'r gorau ar ol chydig gan fod cymaint o fân-bethau ynddi. Er mor werthfawr ydy Eisteddfod Llansannan, ydy'r paragraff yma (ac eraill) yn haeddu cymaint o le? Dwi'n teimlo fod angen nol siswrn at dipyn go lew o'r erthygl (ddiddorol) hon. Ydw i'n iawn? Llywelyn2000 09:15, 6 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Ia, rwyt ti'n iawn. Cafodd hyn ei drafod rhywle arall hefyd (lle? dim yn cofio!), yn bennaf am y ffaith mai Paul Griffiths ei hun gyfrannodd yr erthygl. Er bod rhai cyfeiriadau (erbyn hyn), rhaid derbyn gair yr awdur am y manion neu eu gwrthod, ac rwyt ti'n iawn Llywelyn, mae eisiau eu cwtogi'n sylweddol hefyd. Mae'n dal i ddarllen dipyn bach fel hysbyseb neu CV! Anatiomaros 15:16, 6 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
ON Yma: Sgwrs:Cwmni Ieuenctid Dolwyddelan (ni'n dau eto!). Anatiomaros 15:18, 6 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]