Sgwrs:Cwmni Ieuenctid Dolwyddelan
Gwedd
Dilysrwydd
[golygu cod]Chlywais i rioed am y cwmni hwn. Oedd o'n bodoli? Mi ro i bythefnos am ateb neu ei osod yn y categori 'amheus.' Llywelyn2000 18:19, 22 Tachwedd 2008 (UTC)
- Mae'n erthygl anhygoel o hir a manwl am gwmni theatr mor anadnabyddus, ond roedd 'na gwmni o'r enw (ond bu rhaid imi siecio: gweler yma, i lawr y dalen). Fe weler, efallai, fod hynny'n godi problem arall i ni. Mae'r cyfeiriad at y Cwmni ar dudalen hysbysrwydd Paul Griffiths ar wefan cwmni gwaith theatr. Rwan, y peth yw mae'n ymddangos mai Paul ei hun, dan yr enw Paulpesda a chyfraniadau IP, sydd wedi sgwennu hyn a'r erthygl amdano fo ei hun. Dwi ddim yn dadlau nad ydy Paul (na'r Cwmni, mae'n debyg) yn haeddu erthygl yma, ond mae'n rhaid gofyn pa mor niwtral gall erthygl fod dan yr amgylchiadau hynny? Taswn i'n ddigon adnabyddus i feddwl fy mod yn haeddu erthygl yma baswn i byth yn meddwl am sgwennu'r erthgyl fy hun: gwaith rhywun arall, diduedd, ddylai hynny fod. Anatiomaros 20:14, 22 Tachwedd 2008 (UTC)
- Bois bach. Bona fide solad. Mae'n rhaid mai fi oedd yn fyddar rhwng '90 a '94.
- Dy ail bwynt, Anatiomaros. Mmmm! Diddorol. Yn y byd sydd ohoni, Cymru fach, ayb efallai na fyddai ambell erthygl yn bodoli oni bai fod y bardd ei hun (wps, dramodydd oni'n feddwl!) yn ei sgwennu. Mae'n mynd i wybod y ffeithiau, wrth gwrs, ond ein gwaith ni ydy sicrhau fod y gwaith yn ddiduedd, yn niwtral ac heb ormod o frolio. Mae canaitau hyn yn sicrhau nad llyfwyr tinau neu gweision y sefydliad yn unig sy'n cael eu rhan o lyfr mawr Wicipedia. Fe synwch cymaint o Gymry da na chynhwyswyd yn Gwyddoniadur y Brifysgol neu'r Cydymaith - gan nad oedd eu hwynebau'n ffitio. O leia mi allwn ni yma, yn Wici, agor y drws i bawb: cyn belled fod y llith o ansawdd ac yn niwtral ac yn gytbwys. Nid sensor mohonom, eithr porthorion.Llywelyn2000 22:22, 22 Tachwedd 2008 (UTC)
- Pwyntiau teg, Llywelyn. Gobeithio doeddwn i ddim yn swnio'n rhy negyddol. Ac eto i gyd mae'n anodd iawn, hyd yn oed gyda'r ewyllys gorau yn y byd, i rywun sgwennu'n niwtral amdano/amdani ei hun. Peth arall sy'n taro rwan am yr erthygl hon yn benodol yw'r ffaith does 'na ddim cymaint ag un cyfeirnod; ar gyfer sylw'r beirniaid, er enghraifft (ac ai cytbwys yw'r detholiad, sy'n ganmoliaeth i gyd?). Dwi'n siwr basa Paul ddim yn twyllo neb, ac eto i gyd mae'n rhaid derbyn ei air yn gyfangwbl am hyn achos does dim modd gwyrio'r ffeithiau (heb dwrio yn y llyfrgell am oriau efallai). Porthorion ydym, ond mae gennym ddyletswydd i sicrhau fod ffeithiau'n gywir hefyd, a sut allem ni farnu rhwng "y gwir a'r gau" - unwaith eto, dwi'n pwysleisio fod hyn yn sylw cyffredinol a dim byd yn erbyn Paul yn bersonol - heb yr adnoddau i wneud hynny? Dyna'r broblem. Anatiomaros 21:29, 23 Tachwedd 2008 (UTC)
- Yn hollol. Cytuno gant y gant. Efallai fod yn bryd iddo ddangos y gall sgwennu am eraill yn ei faes, hefyd.Llywelyn2000 18:00, 24 Tachwedd 2008 (UTC)