Sgwrs:Ogof Bontnewydd

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Ai 'dyffryn Afon Elwy' yw'r enw cywir? Byddai 'Dyffryn Elwy' yn fwy naturiol i'm clust i ond nid wy'n hanu o ogledd-ddwyrain Cymru i wybod yr arfer lleol. Lloffiwr 13:39, 21 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]

Ti'n iawn; newidiais y geiriad dro'n ol. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:04, 15 Medi 2014 (UTC)[ateb]

Neb yn gwarchod yr ogof - a'r drws led y pen[golygu cod]

Dw i wedi ymweld a'r ogof ddwywaith yn y misoedd diwetha: ym Mehefin ac yna yn Awst. Uwchlwythais y lluniau i Comin Wicimedia. Rhoddais wybod i Cadw ym Mehefin fod y drws led y pen ar agor. Dim ymateb. Yn Awst, ar fy ail ymweliad - roedd y tri drws yn dal ar agor. Trydarais eto. Dim ymateb. Gwarth! Dyma un o dair ogof pwysicaf Cymru a gweddill gwledydd Prydain. Pwy a saif yn y bwlch? Llywelyn2000 (sgwrs) 09:03, 15 Medi 2014 (UTC)[ateb]