Sgwrs:Mwsoglu

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Diolch am gychwyn ar hyn a'r erthyglau eraill, Llywelyn. Os dwi'n cofio yn iawn - rhy ddiog i chwilio rwan - 'mwsoglu' oedd yr enw am yr arfer o hel y mwsogl yn y lle cyntaf hefyd. Merched fyddai'n gwneud hynny fel rheol (cf. gwlana), a hynny at sawl pwrpas, e.e. lliwio dillad (eto, os cofiaf yn iawn...!). Anatiomaros 23:48, 28 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Finna'n meddwl mai glaslanc oedd bia'r enaid gynnes, fawr! Diolch i ti. Dwi am gadw at 'Cwm Eithin' yn gynta, ac yna dod nol atyn nhw i roi chwaneg o gig ar yr esgyrn. Plis ychwanega atyn nhw, wrth gwrs. Llywelyn2000 23:54, 28 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Mae'n fan cychwyn da. Bydd rhaid i mi wneud rhywbeth am y categoriau hefyd yn nes ymlaen, ond dydy hi ddim yn fater syml o greu un categori yn unig ond sawl un arall er mwyn iddo wneud synnwyr yn y drefn. Gyda llaw, dwi ddim mor hen (eto!) fel na fedraf fwrw'r ffram Zimmer i ffwrdd o bryd i'w gilydd a rhedeg ar ôl morwynion glân Arllechwedd i "fwsoglu"! Anatiomaros 00:02, 1 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]