Sgwrs:Morlo

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

y blychau eginyn[golygu cod]

Ddim yn siwr beth i'w wneud o ran symud yr erthygl i'r is-gategori {{eginyn bioleg}}

Fe wnes i drio ond wrth wneud hynny mae bwlch anferth rhwng yr erthygl a'r frawddeg, gan fod y blwch eginyn yn mynd i lawr fel ei fod o dan y blwch gwybodaeth ar y dde, a dw i ddim yn gwybod sut i rwystro hynny; dw i'n cymryd bod ffordd, o ystyried bod y rhan fwyaf o egin yn fyr ac felly bod problem fel hyn yn siwr o fod yn eitha arferol..? Jac y jwc 12:13, 1 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]

Dw i'n sylwi wrth edrych ar erthyglau eraill (e.e. Ystlum) bod y blychau eginyn yn cael eu defnyddio er eu bod nhw'n cael eu gwthio i'r gwaelod. Felly fel'na maen nhw i fod ie, ar y gwaelod? Diolch am eich help Jac y jwc 13:05, 1 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]
Ar y gwaelod mae nhw i fod. Pan fo gwybodlen yn yr erthygl, fel yma, mae'r meddalwedd yn eu rhoi o dan y wybodlen yn ddiofyn. Unwaith mae'r nodyn 'eginyn' yno mae'r erthygl ei hun yn cael ei rhoi yn y categori 'Egin X' heb i chi orfod wneud hynny eich hun. Gobeithio fod hynny'n egluro'r sefyllfa. Hwyl, a Blwyddyn Newydd Dda! Anatiomaros 14:08, 1 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]