Sgwrs:Llosgnwy

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Hm? Wrth groesawi defnydd yr enw "Llosgnwy", nid wy'n sicr o gwbl am ei cyfystyru a "Methan". O'r diffiniad yng Ngeiriadur y Brifysgol cyfeiria at y nwy marwol sy'n cronni mewn pyllau glo. Er mai methan yw yn bennaf - nid yw'n derm cyfystyr a'r nwy hwnnw (mae'n cynnwys nwyon eraill). Fy awgrym yw cadw Llosgnwy wrth son am y cyd-destun hanesyddol ond cadw Methan fel pennawd ar gyfer y nwy (CH4) a'i holl gysylltiadau cemegol (gan gynnwys ei phwysigrwydd fel un o'r nwyon tŷ gwydr pwysicaf). (cf Schlagwetter a Methan yn Almaeneg a Firedamp a Methane yn Saesneg.) Gwyrth Wicipedia yw bod modd cysylltu'r ddau yn hwylus. --Deri (sgwrs) 14:31, 5 Gorffennaf 2017 (UTC)[ateb]

Gwych! Dydy Marnanel - y defnyddiwr a greodd yr erthygl - ddim wrthi ers tro. Bydd yn anodd i minnau (ac eraill) olygu yn ystod y dyddiau nesaf, gan ein bod mewn cynhadledd yng Nghaeredin. Beth am fynd ati deri i greu'r ailgyfeiriad 'Methan' yn erthygl gyflawn, unigol? AC fel y dywedi, ehangu'r erthygl hon am ddefnydd traddodiadol o'r gair. Rhagor pan ddof nol i Gymru fach! Cofion cynnes, Robin aka Llywelyn2000 (sgwrs) 15:42, 5 Gorffennaf 2017 (UTC)[ateb]
@Llywelyn2000: Annwyl Robin, Ardderchog a diolch. Siwrnai ddiogel i Gaeredin - a phob lwc. Newydd ddarllen y rhaglen. Mae'n edrych yn hollol wych. Hwyl, Deri --Deri (sgwrs) 17:00, 5 Gorffennaf 2017 (UTC)[ateb]