Sgwrs:Ieuan Du'r Bilwg

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Du/Ddu[golygu cod]

Does gen i ddim syniad pam nad yw 'Du' yn treiglo yma, ond dyma'r ffurf a geir gan yr ysgolhaig mawr hwnnw G. J. Williams yn ei gyfrol Traddodiad Llenyddol Morgannwg, a hynny sawl gwaith. Dwi'n nodi hyn rhag ofn i rywun feddwl am symud y dudalen i 'Ieuan Ddu' (gweler hefyd Eglwys Loegr/Lloegr!). Anatiomaros 19:26, 27 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Enw perthynol, mae'r Du'n perthyn i Bilwg, yn yr union run modd a Chymdeithas Cerdd Dafod. Llywelyn2000 20:04, 27 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Diolch. Ia, mae'n debyg, wedi meddwl amdani, ond beth yn union ydy ystyr "Du'r Bilwg"? Dwi'n gwybod beth ydy 'bilwg' (< S. billhook, erfyn i dorri gwrychoedd ayyb). Unrhyw syniad? Anatiomaros 20:41, 27 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Ia, cyllell gyda thro'n ei blaen, i dorri coed fel arfer; mae'n rhaid fod gan Dafydd drwyn tebyg - un gyda thro ynddo, fatha parot! Fe gaiff y gair ei grybwyll yn gyntaf yng Nghyfreithiau Hywel Dda, "gwelleu a gwdyf a bilwc". (GyB) Llywelyn2000 21:22, 27 Awst 2009 (UTC)[ateb]