Sgwrs:Ffrwydradau Nigeria, Nadolig 2011

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

A yw "ffrwydradau" yn cyfleu'r union ystyr? A fyddai "Bomio Nigeria Rhagfyr 2011" yn well? Dwi'n gwrthwynebu'n gyfan gwbl y defnydd o'r gair "Nadolig" yn y teitl, hefyd. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 22:32, 25 Rhagfyr 2011 (UTC)[ateb]

Dw i'n meddwl mai ni sydd heb arfer gyda'r gair Glenn; mae "bomio"'n fwy naturiol i mi, ond does dim o'i le ar "ffrwydradau". Dw i'n tueddu i ddweud "ffrwydriadau" (efo "i" ymwthiol), sy'n haws ei ddweud, ond dydy o ddim mewn geiriadur. Beth am "Rhagfyr" yn hytrach na "Nadolig", fel yn en? Llywelyn2000 06:03, 26 Rhagfyr 2011 (UTC)[ateb]
Yn ôl geiriadur.net, "ffrwydrad" ydy "explosion" a "outbreak," sy ddim yn cyfleu'r un peth â "bomio." Dyma be dwi'n awgrymu, hefyd - "Rhagfyr". Byddwn yn awgrymu "Bomio Nigeria Rhagfyr 2011" am deitl gwell. Barnau? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 17:32, 26 Rhagfyr 2011 (UTC)[ateb]
"Ffrwydradau" sydd wedi ei ddefnyddio ar Wicipedia ers blynyddoedd, dwi'n credu taw hwn oedd y defnydd cyntaf a dilynodd erthyglau eraill (y mwyafrif wedi eu creu gan fi) y drefn. Mae nifer o adroddiadau newyddion yn Saesneg yn eu galw'n blasts yn hytrach na bombings, sydd yn cyfieithu i "ffrwydradau". Mae "bomio Nigeria" yn swnio'n rhy "ferfol" imi.
Dwi'n credu bod y gair "Nadolig" yn y teitl yn addas oherwydd roedd yr ymosodiadau yn targedu gwasanaethau Cristnogol ar yr ŵyl Gristnogol hon. Mae'r wicis eraill ar hyn o bryd yn defnyddio Rhagfyr yn eu teitlau ar gyfer yr erthygl hon, ond mae cynsail o ddefnyddio enwau ar wyliau crefyddol wrth gyfeirio at ddigwyddiadau, yn enwedig pan bo natur yr ŵyl yn berthnasol i'r hyn a ddigwyddodd, er enghraifft cyflafan Dydd Sant Ffolant, cyflafan Gŵyl Sant Bricius, Ymosodiad Tet, cyflafan Dydd Sant Batholomeus, cyflafan y Pasg Iddewig, cadoediad y Nadolig yn y ffosydd, llifogydd y Nadolig yn yr Unol Daleithiau. Hefyd yn y Saesneg gelwir tsunami Cefnfor India 2004 yn aml yn y Boxing Day Tsunami a'r ymgais i fomio en:Northwest Airlines Flight 253 yn y Christmas Day bombing attempt. Mae nifer o asiantaethau newyddion wedi eu galw'n Christmas Day bombings. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 18:02, 26 Rhagfyr 2011 (UTC)[ateb]