Sgwrs:Ffistio

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Ffistio?[golygu cod]

Roeddwn i'n meddwl mai 'dwrn' yw'r gair Cymraeg am fist? Oes enghraifftiau o'r term ar gael? Anatiomaros 16:53, 23 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Ydy, ond sdim berf "to fist," oes? Fel gyda ffingro, dyw "dwrnu/dwrni" ddim yn cyfleu'r un peth. Yr un peth eto - braitiaith yw e yn Saesneg wrth sôn am weithgareddau rhywiol, felly dwi o blaid cadw at "ffistio." -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 17:33, 23 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Yn ôl GyA, y ferf am "to fist" yw dyrnu, dyrnodio neu ffustio (diolch byth am arbenigwyr ein cenedl...). Efallai dylid defnyddio un o'r termau hyn gyda (rhyw) ar ei ol, am fod ystyron gwahanol i'r termau hyn yn dibynnu ar dafodiaith. Pwyll 08:54, 24 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Dwin awgrymu cadw at ffustio, fel bod ni'n gwahaniaethu rhwng hyn a dyrnu sef rhoi cweir i rywun.
Felly, oes consensws i gadw at Ffistio (neu newid ei henwi i "Ffustio"? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 19:21, 24 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
'Dyrnu' yw'r term Cymraeg naturiol (ceir sawl ystyr arall felly bydd angen cael Dyrnu (rhyw)). Ceir enghraifft o'r gair yn yr ystyr arbennig yma ar y Rhegiadur Cymraeg: sylwer does dim enghraifft o'r Wenglish "ffistio" ganddyn nhw. Dwi'n cynnig symud hyn i Dyrnu (rhyw). Anatiomaros 14:55, 25 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Cytuno gydag Anatiomaros unwaith eto. Mae'n swnio llawer mwy naturiol ond bydd y dudalen wahaniaethol yn angenrheidiol rhag ofn i rywun chwilio am wybodaeth am "ddiwrnod dyrnu" neu "ddyrnu ar ffermydd Cymreig" a chael yffach o sioc. Pwyll 15:51, 25 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Iawn. Sdim gwrthwynebiad yma. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 21:55, 25 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Diolch. Bydd angen cael y dudalen dyrnu hefyd neu geiff rhywun "yffach o sioc", chwedl Pwyll! Anatiomaros 22:18, 25 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]