Sgwrs:Byseddu (rhyw)

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Sgwrs:Ffingro (rhyw))

Ffingro?[golygu cod]

Onid byseddu y dylai hyn fod yn Gymraeg? Anatiomaros 16:50, 23 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Efallai, ond imi, dyw e ddim yn cyfleu'r un peth; rydym yn "byseddu" y trympet wrth chwarae fe - dyna beth fi'n meddwl amdano wrth glywed y gair "byseddu", nid "ffingro rhyw ddyn neu fenyw gyda dy fysedd." Eto, braitiaith yw e yn Saesneg wrth sôn am weithgareddau rhywiol, felly dwi o blaid cadw at "ffingro." -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 17:31, 23 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Dwi methu manylu'n fwy ar hyn ond dwi'n cofio dod ar draws llyfr yn yr ysgol blynyddoed yn ôl gyda golygfa chwilboeth a'r gair "byseddu" yn yr ystyr hon yn ymddangos ynddi. Rheswm teilwng iddo aros yn fy nghof, mae'n sicr. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 00:12, 24 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Bydden i'n dweud mai byseddu fyddai'r term Cymraeg "safonol" hefyd. Efallai mai "ffingro" byddai rhywun yn dweud ar lafar ond ar gyfer gwyddoniadur, dw i'n meddwl fod "Byseddu (rhyw)" yn deitl gwell. Pwyll 08:49, 24 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Angytuno. ma isio medru gwahaniaethu. Byseddu llyfr da ni'n wneud. Mae termau rhyw yn fwy llafar a naturiol yn tyden? —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan 78.150.140.236 (sgwrscyfraniadau) 11:58, 24 Gorffennaf 2010
Byddai'r ffurf lafar gan rai (neu fratiaith!) yn ailgyfeirio i Byseddu (rhyw). 'Byseddu' yw'r enw Cymraeg naturiol. Beth ydy rhywun yn defyddio i wneud hyn? Bysedd, nid fingers. Ac mae mwy nac un ystyr i "fingering" yn Saesneg hefyd, o ran hynny, sy'n esbonio teitl yr erthygl ar yr Anglopedia, sef "Fingering (sexual act)". Anatiomaros 14:56, 24 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Am enghraifft o'r term yn yr ystyr a geir yma, gweler Y Rhegiadur Cymraeg. Mae'n werth nodi ni cheir "ffingro" ganddyn nhw hefyd. "Byseddu" yw'r term Cymraeg naturiol ac mae'r ystyr yn y cyd-destun yn amlwg - pam ddefnyddio ryw fratiaith Wenglish felly? Dwi'n cynnig eto ein bod yn symud hyn i Byseddu (rhyw). Anatiomaros 14:51, 25 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Cytuno gydag Anatiomaros. Mae'n swnio llawer mwy naturiol a Chymreig yn fy marn i. Pwyll 15:46, 25 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Cytuno i symud i byseddu (rhyw) hefyd. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 20:25, 25 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Cytunaf hefyd 'te :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 22:18, 25 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Am ei fod yn anhebygol bydd angen byseddu fel erthygl, beth am ailgyfeirio hynny at bys a chael tudalen gwahaniaethu bysedd (gwahaniaethu) (mae 'na flodau a ballu, e.e. bysedd y cŵn, hefyd, felly mae angen hynny beth bynnag) a rhoi dolen at hyn yno? Neu oes gan rywun awgrym arall? [neu ailgyfeirio byseddu at bysedd (gwahaniaethu)?] Anatiomaros 22:24, 25 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Neu troi bysedd (ailgyfeirio at bys ar hyn o bryd) yn dudalen gwahaniaethu efallai (gyda byseddu yn ailgyfeirio i hynny hefyd)? Anatiomaros 22:29, 25 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]