Sgwrs:Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Madog 1987
Gwedd
Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a chewch restr o bethau sydd angen eu gwneud. Ychwanegwch y nodyn hwn i unrhyw dudalen sy'n ymwneud â Chymru neu Gymry. |
Enw
[golygu cod]Ai dyma'r enw swyddogol ("...Porthmadog 1987")? Mae gen i lyfr gan Dafydd Glyn Jones, Yn Nrych yr Amseroedd, a gyhoeddwyd fel Darlith Lenyddol Flynyddol "Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Madog 1987" (ceir hynny ar y dudalen deitl). Anatiomaros (sgwrs) 19:04, 27 Medi 2013 (UTC)
- Nid bod o'n brawf pendant, ond o roi "Bro Madog 1987" yn Google, mae copi o Cyfansoddiadau A Beirniadaethau - Bro Madog 1987 (ond dim llun) ar werth ar Amazon, a lluniau gon bobl ar Flickr a Chasgliad y Werin <poeri>. --Rhyswynne (sgwrs) 20:05, 27 Medi 2013 (UTC)
- Diolch i ti Rhys. Rhwng hynny a llyfr Dafydd Glyn dwi'n meddwl bod rheswm da i symud hyn i 'Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Madog 1987' felly, os nad oes wrthwynebiad. Mae'n bwysig ein bod yn cadw at yr enwau swyddogol. Anatiomaros (sgwrs) 20:40, 27 Medi 2013 (UTC)