Sgwrs:Dyffryn Bach Hawy

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Enw Cymraeg?[golygu cod]

Be 'di'r erthyl-air Saesneg hyll "Howey" yn Gymraeg? Anatiomaros (sgwrs) 01:02, 19 Awst 2014 (UTC)[ateb]

Mae 'Howi' yn cael ei ddefnyddio. Cofia hefyd fod Nant Howey yn bodoli. Newid ill dau i 'i'? Llywelyn2000 (sgwrs) 06:19, 8 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]
Swnio'n rhesymol (Howi). Byddai ffynhonnell yn ddymunol ond mae unrhyw beth yn well na "Howey"... Anatiomaros (sgwrs) 02:17, 9 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]
Newydd droi at 'Dictionary of the Place-Names of Wales' (Hywel Wyn Owen a R Morgan): 'Summer stream', haf, suff. - wy. 'Hawey' 1818, 'Howey' 1891. A relatively modern village named after the river Hawy or Howey which rise near a former farm Blaenhawy (Blaenhavoe 1297, blaen). The obvious implication is of a river which was sometimes dry in summer but two water mills are recorded in historic sources.' Fo bia'i gair mwys ar y diwedd! 'Hafwy', felly! Neu 'Howi' os fedrwn ddarganfod enghraifft byw. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:26, 9 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]
Dw i wedi creu erthygl fechan am y pentref. Gan na ffindiais i'r gair Howi ar y we, mi fedyddiais o'n Hafwy: "bydd ddewr!" yw un o golofnau'r hen wici! Mae croeso i unrhyw un ei newid, os dewch o hyd i enw Cymraeg arall. Os na ddaw, yna mi newidiai enw'r 2 SSSI hefyd. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:10, 9 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]
Wel wel, difyr iawn a deud y lleia. Mae'r ail elfen -wy yn bur gyffredin wrth gwrs, e.e. afon Conwy. Ga'i awgrymu defnyddio'r ffurf Hawy, fel sydd yn yr erthygl rwyt ti'n ei dyfynnu? Mae'r llythyren 'f' yn 'haf' yn diflannu ar lafar, fel y gwyddom ni i gyd, ac felly mae 'Hawy' yn iawn. Diolch i ti am dy ymchwil. Mae gen i Enwau Afonydd a Nentydd Cymru R.J. Thomas ond yn anffodus dim ond y gyfrol gynta a gyhoeddwyd cyn i'r awdur farw ac yn anffodus dydy'r gyfrol wych honno ddim yn cynnwys afonydd sy'n terfynu yn -wy neu basai yno ganddo yn sicr. 'Hawy' - ar ôl enw'r afon - yn lle'r Hafwy fwy ffurfiol felly? Anatiomaros (sgwrs) 00:52, 10 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]
Cytuno; mi newidia i o rwan. Prynna'r gyfrolau eraill! Mi wneithy WMUK dy dalu di'n ol. Chwilia am 'microgrant' ar safle wmuk. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:37, 16 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]