Sgwrs:Crug Galltbŷr

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Sgwrs:Crug Gallt y Bŷr)

At 'RHIWIAU ROUND BARROW' mae'r ddolen allanol yn arwain. Hefyd, wyt ti'n siwr am yr enw lle 'Gallt y Bŷr'? Pŷr, nid 'Bŷr', yw enw'r sant (treiglad meddal ar ôl enw benywaidd sy'n creu 'Ynys Bŷr' a 'Maenorbŷr), felly dydy "y Bŷr", yn enwedig gyda'r fannod, ddim yn gwneud synnwyr. Fedri di wirio hyn, Llywelyn? Anatiomaros 17:47, 11 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]

Yr enw i gychwyn; "Bier Hill Round Barrows" ydy'r enw mae Coflein yn ei ddefnyddio am y crug hwn sydd wedi'i leoli tua dau gan metr i'r gogledd o Orsaf Rheilffordd Maenorbyr. Enw benywaidd ydy "gallt", felly efallai y byddai Galltbŷr yn well enw?
Cywirwyd y ddolen i dudalen berthnasol Coflein. Llywelyn2000 22:25, 11 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]
Diolch. Ia, basa Galltbŷr neu Gallt Bŷr yn gwneud synnwyr, os dyna ydy'r enw Cymraeg, wrth gwrs (falla bod 'Bier Hill' yn enw Saesneg hollol a bod yr enw Cymraeg yn wahanol). Rhaid i ni fod yn ofalus rhag ofn ein bod yn bathu enw Cymraeg sy'n Gymreigiad o'r Saesneg... :-) Anatiomaros 22:34, 11 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]
Dyna'r peryg; ond heb wybodaeth leol, pwy wyr? Dw i wedi edrych ar bob un o'r crugiau ar fapiau manylaf yr OS i wiro neu fathu enw - nes daw gwybodaeth leol, fwy manwl a chywirach i'r fei. Llywelyn2000 22:43, 11 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]
Does gen i ddim llyfrau hanes lleol am yr ardal, ac fel ti dwi'n gorfod dibynnu ar yr OS, yn anffodus. Beth am ei symud i Gallt Bŷr neu Galltbŷr am rwan? Rhaid i'r fannod 'na fynd beth bynnag. Anatiomaros 23:04, 11 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]