Sgwrs:Cors Gorsgoch

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Enw rhyfedd![golygu cod]

Dydi "Cors Gorsgoch" ddim yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Ai "Corsgoch Marsh" sydd ar y rhestr SoDdGA Saesneg? Os felly, symuder hyn i 'Corsgoch, Ceredigion' (mae Cors Goch arall gennym hefyd). Anatiomaros (sgwrs) 01:06, 12 Awst 2014 (UTC)[ateb]

Cadw fel ag y mae. Mae 'Gorsgoch' yn bentrefan ger Cribyn a cheir cors gwlyb gerllaw. Swnio fatha 'Llyn Talyllyn'! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:13, 4 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]
Os felly, dwi'n cytuno. Swnio'n od, fel ti'n deud! Mae'n siwr gen i fod y pentrefan wedi'i enwi ar ôl y gors gerllaw - mae 'Cors Goch' yn enw lle digon cyffredin - yn hytrach nag i'r gwrthwyneb ond mae'n esbonio'r enw felly cadwer hyn fel y mae. Anatiomaros (sgwrs) 00:21, 5 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]
Ia yn de? Cochni mawn siwr o fod yn rhoi enw i'r gors, yna'r pentrefan ac yna'n ol i'r gors! Rhesymegol-gorslyd! Efallai y daw gwybodaeth leol, a da fyddai hynny! Llywelyn2000 (sgwrs) 04:50, 5 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]