Sgwrs:Caprys

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Mae'n ymddangos ei fod yn gonfensiwn yn Wikis eraill i drin cynhwysion fel caprys fel is-adran o erthyglau botanegol. Dwi'n credu taw dyma'r dull anghywir, a dylen ni drin eitemau fel sbeisys fel eitemau ynddynt eu hunain, ar wahân i'r planhigion. Wedi'r cyfan, nid yw caprysen yn llwyn caprysen; yn yr un modd nad yw raisin yn winwydden. Felly ar hyn o bryd nid yw'r erthygl hon yn gysylltiedig ag unrhyw wikis eraill. Sai'n siŵr ble mae hyn i gyd yn ein gadael ni. Unrhyw syniadau? Craigysgafn (sgwrs) 23:39, 16 Gorffennaf 2019 (UTC)[ateb]

Cytuno'n llwyr. Dw i wedi creu eitem newydd arno ar Wicidata, felly mi fydd hi'n bosib creu Gwybodlen cyn hir! Angen cyfeiriadau fodd bynnag. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:38, 17 Gorffennaf 2019 (UTC)[ateb]