Sgwrs:Bleidd-ddyn

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Untitled[golygu cod]

Annwyl Xxglennxx. Paid cyffwrdd a'r dudalen yma eto. Dwi wedi laru ar y llanast ieithyddol mae dy "gywiriadau" yn neud o fy nghyfraniadau. simondyda (sgwrs) 14:25, 4 Mai 2012 (UTC)[ateb]

Heia. Croeso'n ôl! Sori, ond roeddwn yn meddwl fod "blaidd-ddyn" (tua 10,600 canlyniad) yw'r ffurf sy'n fwyaf cyffredin, yn hytrach na "bleidd-ddyn" (tua 5,560 canlyniad). Dwi wedi edrych yn GyA, sy'n nodi "bleidd-ddyn" yn gyntaf... Ond sdim ots da fi a ddweud y gwir. Ceisio tacluso sillafiadau o'n i :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 01:02, 6 Mai 2012 (UTC)[ateb]
Yn gyntaf, nid yw canlyniadau Google yn penderfynu pa enw sy'n fwy cyffredin yn y Gymraeg, yn enwedig yn achos y creadur hwn! Yn ail, un peth (digon od) ydy newid bleidd-ddyn i blaidd-ddyn, ond peth arall (anesbonadwy) ydy newid Bleiddwraig i Blaiddwraig, Bleiddwn i Blaiddwn, Bleiddiaid i Blaiddiaid a bleiddaidd i blaiddaidd!!! simondyda (sgwrs) 10:16, 12 Mai 2012 (UTC)[ateb]
Nac ydynt? Pam? Eto, pam ydy'n od? Gwn fod newid llythyren wrth 'gyfuno' geiriau ('blaidd' i 'bleidd'), ond 'blaidd-ddyn' yw'r hyn a ddangosir yn 'gywir' yn ôl sillafydd Word, Firefox, Google, a bron pob geiriadur rwy wedi chwilio ynddyn nhw. Yn drydydd, dilyn y confensiwn o "blaidd-" oeddwn i, ond wrth gwrs, roeddet ti'n gallu sylweddoli hynny. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 11:48, 12 Mai 2012 (UTC)[ateb]
Os nad wyt yn gallu deall nad yw Google yn rheoli safonau iaith, nid allaf dy helpu di, achan. simondyda (sgwrs) 07:26, 19 Mai 2012 (UTC)[ateb]
Pwy ddywedodd fod Google yn rheoli safonau iaith? Peiriant sy'n dangos gogwyddion ydy fe, ac felly yn dangos pa un air/eiriau sy'n fwyaf poblogaidd. Ond sdim ots gen i bellach - cawn gadw'r hyn sy yno. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 18:14, 19 Mai 2012 (UTC)[ateb]

Dolen wallus[golygu cod]

Gwirwyd y ddolen sawl tro ac fe'i cafwyd yn wallus. Trwsiwch neu ddilewch hi os gwelwch yn dda.

--Hazard-Bot (sgwrs) 03:04, 2 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]