Sgwrs:Bae Cinmel a Thywyn

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Symud erthyglau[golygu cod]

Os dyma'r ffurf swyddogol, sef 'Bae Cinmel a Thywyn' yn hytrach na 'Tywyn a Bae Cinmel', popeth yn iawn. Ond sylwer 1. Mae angen newid yr enw yn y nodyn:Trefi Conwy hefyd, a 2. Mae enw'r dudalen yn wahanol rwan i enw'r categori ac mae'n rhaid cysoni hynny.

O ran yr enw, does fawr o ddim ots gen i pa un sy'n cael ei ddefnyddio yma, ond mae chwilio ar y we yn dangos enghraifftiau o'r ddwy ffurf ar wefannau swyddogol neu safonol, e.e. "Cyngor Tref Tywyn a Bae Cinmel", "cafodd Darren ei urddo’n Faer Tywyn a Bae Cinmel" (gwefan y Maer ei hun!) ayyb. Byddai nodi ffynhonnell neu ddwy ar y dudalen yn syniad da.

Yn olaf, mae sawl tudalen wedi cael ei symud yn ddiweddar. Mae rhai yn ddigon teg ond eraill yn fwy dadleuol: e.e. Y Waun > Y Waun, Sir Ddinbych, Pont Fadlen > Merlin's Bridge, Y Gellifedw > Birchgrove, Abertawe. Dydy Gwyddoniadur yr Academi ddim yn anffaeledig. Yn achos newid enw Cymraeg i un Saesneg yn enwedig byddai'n dda rhoi cyfle i bobl fynegi eu barn cyn penderfynu.

Dwi'n awgrymu defnyddio tudalen Sgwrs:Rhestr cymunedau Cymru i roi cyfle i bobl drafod unrhyw newid arfaethedig. (Dwi am gopio hyn a'i rhoi ar y dudalen honno ynghyd â sgwennu hysbys bach yn y Caffi.) Anatiomaros (sgwrs) 23:34, 15 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]