Sgwrs:Arnold Schoenberg

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Neges ar Trydar[golygu cod]

Rhag ofn nad ydych wedi gweld sylw gan Ann Hopkin ar Trwydar:

Byddwn yn awgrymu fod ei ddylanwad wedi dieithrio cynulleidfa gerddth gelf yn ystod yr 20G a’r her o adennill y gynulleidfa honno yn aruthrol. Awgrymaf mai nid yr anghytseinedd oedd yn anodd ond y diffyg ail-adrodd syniadau cerddorol. Wrth ail-wrando (yn ystod darn) down i ddeall.

Llywelyn2000 (sgwrs) 11:47, 20 Medi 2022 (UTC)[ateb]

Heb os, mae gwaith Schoenberg yn heriol. Iddo ef yr oedd cerddoriaeth yn fater difrifol, yn fater moesol. Nid adloniant yn unig ydoedd. Doedd pobl byth yn mynd i fwmian ei alawon o dan y gawod. Mae AH yn gwneud pwynt da: nid y sain yw’r peth anoddaf am ei waith, ond y ffordd y mae e’n cywasgu syniadau, ei barodrwydd i wthio’r holl elfennau cerddorol i'w eithafion ar yr un pryd. --Craigysgafn (sgwrs) 13:26, 20 Medi 2022 (UTC)[ateb]