Seffora
Seffora | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymeriad Beiblaidd |
Galwedigaeth | heusor |
Tad | Jethro |
Priod | Moses |
Plant | Gersom, Elieser |
Mae Seffora (Hebraeg צִפֹּרָה prydferthwch [1]) yn cael ei grybwyll yn Llyfr Exodus fel gwraig Moses, a merch Reuel / Jethro, offeiriad a thywysog Midian. Yn Llyfr y Croniclau, sonnir am ddau o’i ŵyr: Sebuel, mab Gersom, a Rehabia, mab Elieser [2].
Cefndir
[golygu | golygu cod]Yn y Tora roedd Seffora yn un o saith merch Jethro, bugail Ceneaid a oedd yn offeiriad y Midianiaid. Yn Exodus 2:18 cyfeirir at Jethro hefyd fel Reuel, ac yn Llyfr y Barnwyr [3] fel Hobab. Hobab hefyd yw enw mab Jethro yn Numeri 10:29 [4].
Naratif Beiblaidd
[golygu | golygu cod]Tra roedd yr Israeliaid yn gaethion yn yr Aifft, lladdodd Moses Eifftiwr a oedd yn taro Isreiliad, ac am y drosedd honno ceisiodd Pharo ladd Moses. Felly ffodd Moses o'r Aifft a chyrraedd Midian. Un diwrnod wrth iddo eistedd wrth ffynnon, daeth merched Reuel yno i ddyfrio praidd eu tad. Cyrhaeddodd bugeiliaid eraill a gyrru'r merched i ffwrdd fel y gallent ddyfrio eu praidd eu hunain yn gyntaf. Gwnaeth Moses amddiffyn y merched gan ddyfrio eu praidd drostynt. Ar ôl dychwelyd adref gofynnodd eu tad iddyn nhw, "Paham y daethoch heddiw cyn gynted?" Atebodd y merched, "Eifftwr a’n hachubodd ni o law y bugeiliaid; a chan dynnu a dynnodd ddwfr hefyd i ni, ac a ddyfrhaodd y praidd." Gofynnodd Reuel "Pa le y mae efe? paham y gollyngasoch ymaith y gŵr? Gelwch arno, a bwytäed fara." Yna rhoddodd Reuel Seffora fel yn wraig i Moses [5].
Ar ôl i Dduw orchymyn i Moses ddychwelyd i'r Aifft i ryddhau'r Israeliaid, cymerodd Moses ei wraig a'i feibion a dechrau ar ei daith. Ar y ffordd, arhoson nhw mewn tafarn, lle daeth Duw i ladd Moses. Yn sydyn, enwaedodd Seffora ei mab â charreg finiog a chyffyrddodd â thraed Moses â'r blaengroen, gan ddweud "Diau dy fod yn briod gwaedlyd i mi!" Yna gadawodd Duw llonydd i Moses [6]. Mae manylion y darn yn aneglur ac yn destun dadl.
Ar ôl i Moses lwyddo i fynd â'r Israeliaid allan o'r Aifft, ac ennill brwydr yn erbyn Amalec, daeth Reuel i wersyll yr Isreiliaid yn anialwch Sinai, gan ddod â Seffora a'u dau fab, Gersom ac Elieser, gydag ef. Nid yw’r Beibl yn dweud pan ailymunodd Zipporah a’i meibion â Reuel / Jethro, dim ond ar ôl iddo glywed am yr hyn a wnaeth Duw dros yr Israeliaid, y daeth â theulu Moses ato.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Lle fo cyfeiriad yn destun Beiblaidd, bydd dilyn y cysylltiad yn mynd at rifyn Beibl William Morgan Cymdeithas Feiblaidd Prydain a Thramor, 1992 ar wefan Bible Gateway. Am destun mwy cyfoes gellir chwilio am yr un adnodau ar dudalen chwilio Beibl Net
- ↑ Charles, Thomas; Y Geiriadur Ysgrythyrol (argraffiad 1885) tudalen 810, erthygl: Sephorah
- ↑ 1 Cronicl 23: 16-17
- ↑ 1 Barnwyr 4:11
- ↑ Numeri 10:29
- ↑ Exodus 2:11-21
- ↑ Exodus 4:24-26