Seasick Steve
Seasick Steve | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1951 ![]() Oakland ![]() |
Label recordio | Atlantic Records, Caroline Distribution ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | gitarydd, artist stryd, banjöwr, canwr, cyfansoddwr, cerddor ![]() |
Arddull | y felan ![]() |
Gwefan | http://seasicksteve.com ![]() |
Cerddor blues Americanaidd ydy Steve Wold (g. 1941), neu Seasick Steve, sy'n canu a chwarae amryw o gitarau (y rhanfwyaf wedi eu personoleiddio). Pan ofynwyd iddo o ble daeth ei lysenw, dywedodd Steve: "because it's just true: I always get seasick."[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Pan oedd Steve yn bedwar oed, gwahanodd ei rieni. Dysgodd hen ddyn o Mississippi, a oedd yn arfer chwarae gyda Tommy Johnson, ef sut i chwarae gitâr pan oedd yn 8 oed. Gadawodd ei gartref yn 13 oed, a treuliodd nifer o flynyddoedd yn byw y stryd yn yr Unol Daleithiau. Roedd yn arfer teithio'n bell fel hobo gan neidio ar drenau cludo.[2]
Cyn dod yn gerddor proffesiynol, yn beirianydd sain a chynhyrchydd, deliodd amryw o swyddi gan gynnwys bod yn carnie, cowboi a gweithiwr crwydrol.
Disgograffi
[golygu | golygu cod]- Seasick Steve and the Level Devils: Cheap (2004)
- Seasick Steve: Dog House Music (2006)
- Seasick Steve: It's All Good EP gyda'r caneuon "It's All Good", "Last Po' Man (Remix)", "Thunderbird" a "The Jungle". (2007)
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- ↑ Op de Beeck, tud.158
- ↑ Op de Beeck, Geert 'Humo's Pop Poll de Luxe: goed gerief van Seasick Steve' HUMO NR 3467, tud 159, 16 Chwefror 2007
Dolenni Allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol
- Adolygiad y BBC o gig Seasick Steve Archifwyd 2007-10-14 yn y Peiriant Wayback
- Seasick Steve yn chwarae Doghouse Boogie ar sioe Jools Holland
- Cyfweliad Pukkelpop 2007
- Cyfweliad 2006 Archifwyd 2011-08-31 yn y Peiriant Wayback
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.