Screaming Lord Sutch

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Screaming Lord Sutch
Screaming Lord Sutch.jpg
Ganwyd 10 Tachwedd 1940 Edit this on Wikidata
Hampstead Edit this on Wikidata
Bu farw 16 Mehefin 1999 Edit this on Wikidata (58 oed)
Achos: hunanladdiad drwy grogi Edit this on Wikidata
South Harrow Edit this on Wikidata
Gwaith Cerddor, perennial candidate Edit this on Wikidata
Arddull cerddoriaeth roc Edit this on Wikidata

Roedd David Edward Sutch neu'r Screaming Lord Sutch (Cymraeg: "Yr Arglwydd Sgrechlyd Sutch") (10 Tachwedd, 194016 Mehefin, 1999) yn gerddorwr roc, gwleidydd a maferic o Sais. Cafodd yrfa hir fel cerddor dan ei lysenw 'Screaming Lord Sutch' a daeth yn adnabyddus i gynulleidfa ehangach fel sylfaenydd yr 'Official Monster Raving Loony Party' a safai mewn nifer o etholiadau ac is-etholiadau yn y 1980au a'r 1990au, yn aml yn erbyn gwleidyddion amlwg.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlodd yr 'Official Monster Raving Loony Party' yn 1983 ac ymladdodd yn is-etholiad Bermondsey. Yn ystod ei yrfa safodd mewn dros 40 etholiad. Roedd yn ffigwr hawdd i'w adnabod yn y cownt etholiadol oherwydd ei ddillad lliwgar. Yn fuan ar ôl iddo ennill rhai cannoedd o bleidleisiau yn etholiad Finchley yn 1983, gan achosi cryn embaras i Margaret Thatcher ar y noson, y codwyd y deposit a delir gan ymgeisgwyr etholiad o £150 to £500. Parhaodd Sutch i sefyll, fodd bynnag, gan ddefnyddio ei enillion o'i gyngherddau roc i dalu am ei ymgyrchoedd tafod-mewn-boch. Bu ar raglen gyntaf y gyfres deledu ddychanol The New Statesman ar ITV - fel ef ei hun - gan ddod yn ail yn ffug etholiad 1987 (o flaen ymgeiswyr Llafur a'r SDP) a welodd Alan B'Stard (cymeriad Rick Mayall) yn cael ei ethol i San Steffan.


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.