Sbondonics
Gwedd
Clwb llyfrau Cymraeg i blant yw Sbondonics. Cyhoeddir catalog ar gyfer pob tymor yr ysgol gan Gyngor Llyfrau Cymru. Anelir y catalog at blant 7-11 oed ac mae nifer o'r llyfrau ar gael am brisiau gostyngol.[1]
Cyhoeddwyd y rhifyn gyntaf ar ffurf cylchgrawn 16 tudalen yn Hydref 1983 gan y Cyngor Llyfrau Cymraeg, fel yr adnabyddwyd hwy ar y pryd. Roedd yn cynnwys sawl cartŵn, cyfweliadau a chystadlaethau. Dathlodd Sbondonics ei ben-blwydd yn 25 mlwydd oed yn 2008. Ers sefydlu'r clwb mae 302,315 o brynwyr ac mae cyfanswm y gwerthiant wedi cyrraedd £1.6 miliwn.[2]
Cyhoeddwyd rhifyn olaf Sbondonics yn nhymor yr Haf 2009.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Clybiau Llyfrau Plant. Cyngor Llyfrau Cymru.
- ↑ Clwb Llyfrau Sbondonics yn 25 Oed. Cyngor Llyfrau Cymru (14 Hydref 2008).