Sbectrwm
Math | cyflwr |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Enw ar yr amrywiaeth o liwiau sy'n bresennol mewn rhai ffynonellau golau ydy sbectrwm (lluosog: sbectra). Mae'r sbectrwm yn dod yn amlwg pan wahanir lliwiau (amleddau)'r golau gan ddyfais megis prism. Mae golau gwyn (megis golau'r haul) yn gymysgedd o bob lliw, felly mae ganddo sbectrwm di-fwlch neu gyfan. Ond mae gan rai ffynonellau golau eraill, megis lampau sodiwm neu LED, sbectrwm rhannol sy'n cynnwys dim ond rhai amleddau o olau gyda bylchau rhyngddynt.
Mae sbectrwm allyriant rhai sylweddau yn cyfeirio at sbectrwm y golau y byddent yn ei fwrw allan, yn arbennig pan gânt eu poethi, ac mae eu sbectrwm amsugniad yn cyfeirio at y lliwiau sy'n gallu cael ei amsugno ganddynt. Oherwydd bod sbectra gwahanol gan sylweddau gwahanol, gellir darganfod pa sylweddau sy'n bresennol mewn sampl cemegol trwy edrych ar ei sbectrwm; mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer pethau pell, megis mewn seryddiaeth, na allent gael eu mesur yn uniongyrchol. Sbectrosgopeg ydy enw'r maes cyffredinol hwn o wyddoniaeth.
Yn ogystal â defnydd gwyddonol y gair, fe'i defnyddir yn drosiadol i gyfeirio at rywbeth sy'n amrywio rhwng dau eithaf, megis "sbectrwm" barn gwleidyddol. Roedd hefyd gyfrifiadur cartref cynnar yng Ngwledydd Prydain a enwyd yn "ZX Spectrum", gyda logo o sbectrwm arno.
Sbectrwm lliwiau
[golygu | golygu cod]lliw | cyfwng tonfedd | cyfwng amledd |
---|---|---|
coch | ~ 700–635 nm | ~ 430–480 THz |
oren | ~ 635–590 nm | ~ 480–510 THz |
melyn | ~ 590–560 nm | ~ 510–540 THz |
gwyrdd | ~ 560–490 nm | ~ 540–610 THz |
glas | ~ 490–450 nm | ~ 610–670 THz |
fioled | ~ 450–400 nm | ~ 670–750 THz |
Mae'r sbectrwm gweladwy yn cynnwys chwech prif liw. Hefyd: