Sarah Patterson
Gwedd
Sarah Patterson | |
---|---|
Ganwyd | 22 Ebrill 1972 ![]() y Deyrnas Unedig ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Galwedigaeth | actor ffilm ![]() |
Actores ffilm Seisnig yw Sarah Patterson (ganed 22 Ebrill 1972).
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/8/8c/Sarah_Patterson_in_The_Company_of_Wolves.jpg/250px-Sarah_Patterson_in_The_Company_of_Wolves.jpg)
Cychwynodd ym myd actio ffilm yn actio rhan Rosaleen, cymeriad seiliedig i gryn raddau ar Hugan Goch Fach, yn ffilm ffantasi-arswyd The Company of Wolves (1984) gan Neil Jordan ac Angela Carter. Roedd hi'n 12 oed ar y pryd, a chafodd y ffilm ei ddisgrifio gan un feirniad fel "Lolita meets the Werewolf". Yn 1987 serenodd gyda Diana Rigg fel Eirawen mewn ffilm ffantasi arall, Snow White. Er nad oedd y ffilmiau hyn yn llwyddiant mawr o ran gwerthiant, enillodd yr actores gryn statws cwlt mewn canlyniad. Ar ôl y ffilmiau hyn dydi hi 'mond wedi ymddangos mewn ambell ffilm gan gwmni annibynnol Lisa Gornick, Valiant Doll: Do I Love You? oedd ei ffilm gyntaf mewn degawd.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Sarah Patterson ar imdb
- (Saesneg) Sarah Patterson ar 'The Women of Horror Movies'