Sara de Ibáñez
Sara de Ibáñez | |
---|---|
Ffugenw | Sara de Ibáñez ![]() |
Ganwyd | Sara Iglesias Casadei ![]() 10 Ionawr 1909, 1909 ![]() Chamberlain, Uruguay ![]() |
Bu farw | 3 Ebrill 1971, 1971 ![]() Montevideo ![]() |
Dinasyddiaeth | Wrwgwái ![]() |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, bardd, academydd ![]() |
Arddull | barddoniaeth ![]() |
Priod | Roberto Ibáñez ![]() |
Plant | Ulalume González de León ![]() |
Bardd o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Sara de Ibáñez (10 Ionawr 1909 – 3 Ebrill 1971). Roedd yn briod i'r bardd a beirniad llenyddol Roberto Ibáñez.
Ganwyd Sara Iglesias Casadei ym mhentref Chamberlain, Talaith Tacuarembó, Wrwgwái. Priododd Roberto Ibáñez yn 1928.[1]
Yn ei gwaith mae'n cyfuno themâu hanesyddol, yn aml mewn arddull epig, er enghraifft Canto a Montevideo (1941) ac Artigas (1952), â barddoniaeth delynegol ar bynciau cyffredin, megis rhyfel, marwolaeth, natur, a serch, er enghraifft Canto (1940), Pastoral (1948), ac Apocalípsis (1970). Roedd yn hoff o ddefnyddio ffurfiau traddodiadol, megis y soned, yn ogystal â mesurau rhydd.[2]
Bu farw ym Montevideo yn 62 oed.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ (Saesneg) William H. Katra, "Ibáñez, Sara De (1905–1971)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 29 Mehefin 2019.
- ↑ Gwen Kirkpatrick, "Ibáñez, Sara de" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), tt. 270–1.
Darllen pellach[golygu | golygu cod]
- Lidice Gómez Mango, Homenaje a Sara de Ibáñez (1971).
- Graciela Mantaras Loedel a Jorge Arbeleche, Sara de Ibáñez: Estudio crítico y antología (Montevideo: Editorial Signos, Instituto Nacional del Libro, 1991).