Roberto Ibáñez

Oddi ar Wicipedia
Roberto Ibáñez
Ganwyd13 Ionawr 1907 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
Bu farw28 Awst 1978 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWrwgwái Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Universidad de la República Edit this on Wikidata
Galwedigaethbeirniad llenyddol, athro, ysgrifennwr, bardd Edit this on Wikidata
PriodSara de Ibáñez Edit this on Wikidata
PlantUlalume González de León Edit this on Wikidata

Bardd, beirniad llenyddol, ac ysgrifwr o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Roberto Ibáñez (190728 Awst 1978). Roedd yn briod i'r bardd Sara de Ibáñez. Cysylltir ei waith â mudiad ultraísmo.[1]

Ganwyd ym Montevideo. Yn ei weithiau cynnar mae'n ymdrin â themâu cyffredin megis ieuenctid, serch, ac angau. Yn hwyrach yn ei yrfa, trodd at themâu cymdeithasol. Ymhlith ei gasgliadau o gerddi mae Olas (1925), La danza de los horizontes (1927), Mitología de la sangre (1939). Ibáñez oedd enillydd cyntaf gwobr Casa de las Américas am farddoniaeth, a hynny yn 1961 am ei gyfrol La frontera.[2] Gwasanaethodd yn swydd cyfarwyddwr y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwiliadau ac Archifau Llenyddol, ac am gyfnod fe oedd yn gyfrifol am gyrsiau llenyddol yn ysgolion Wrwgwái.[1]

Cafodd ddylanwad pwysig ar feirniadaeth lenyddol yn Wrwgwái, fel un o'r cyntaf yn y wlad i drin â llên mewn dull ysgolheigaidd.[3] Bu'n sbarduno dadleuon gyda'i feirniadaeth, a chafodd ddadl enwog gydag Emir Rodríguez Monegal. Bu farw ym Montevideo.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) William H. Katra, "Ibáñez, Roberto (1902–1978)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar 23 Mai 2019.
  2. 2.0 2.1 Norah Giraldi Dei Cas, "Ibáñez, Roberto" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain; Routledge, 2004), t. 270.
  3. Richard Young ac Odile Cisneros, Historical Dictionary of Latin American Literature and Theater (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2011), tt. 237–8