Santorini

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Santorini
Santorini Landsat.jpg
Math Mynydd, Ynys, anheddiad dynol, Greek Islands, atyniad twristaidd Edit this on Wikidata
Poblogaeth 17,430 Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Cyclades Edit this on Wikidata
Sir Thira Regional Unit Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Gwlad Groeg Gwlad Groeg
Arwynebedd 79.194 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 567 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Môr Aegeaidd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 36.42°N 25.43°E Edit this on Wikidata
Cod post 847 00, 847 02 Edit this on Wikidata

Ynys yng Ngwlad Groeg yw Santorini (Groeg: Σαντορίνη), hefyd Thera neu Thira, Groeg: Θήρα. Gydag ynys Therasia a nifer o ynysoedd llai, mae'n ffurfio cylch o amgylch y caldera a ffurfiwyd pan ddinistriwyd llosgfynydd gan ffrwydrad folcanig anferth. Hwy yw'r mwyaf deheuol o ynysoedd y Cyclades, tua 70 milltir i'r gogledd o ynys Creta, gyda phoblogaeth o 13,402 yn 2001.

Digwyddodd y ffrwydrad a greodd yr ynysoedd tua 3,600 o flynyddoedd yn ôl, a chred rhai ysgolheigion mai effeithiau'r ffrwydrad yma fu'n gyfrifol am ddiwedd y Gwareiddiad Minoaidd.

Y ddinas fwyaf yw Fira. Mae'n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid, gyda nifer o safleoedd archaeolegol diddorol yn ogystal a'r golygfeydd.

Caldera Santorini, o Imerovigli