Endelyn (Endellion) ach Cynyr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Santes Dilig)
Neidio i: llywio, chwilio
Saint Endelienta
The Collegiate Church of St Endellion - geograph.org.uk - 216898.jpg
Eglwys St Endellion
Ganwyd c. 500 AD
Cernyw
Bu farw Cernyw
Mawrygwyd yn Pabyddiaeth, Yr Eglwys Geltaidd
Prif gysegr St Endellion, Cernyw
Gwyliau 29 Ebrill

Santes o Gernyw o'r 6g oedd Endelyn neu Endellion.[1]

Roedd Endeillion yn ferch i Cymorth[2], wyres Brychan Brycheiniog, a Brynach un o'i cynghorwyr ef. Ganwyd hi yng Nghernyw ar ôl i'w theulu symud yno. Roedd ganddi tair chwaer Mynfer, Mabyn a Mwynen (Morwenna)Treuliodd gyfnod ar Ynys Wair ble mae ganddi gapel. Symudodd i bentref ger Padstow sy'n dwyn ei henw, sef Sen Endelyn (Saesneg: Sant Endellion).

Mae dwy ffynnon ym mhentref Sen Endelyn wedi'i chysegru iddi ac mae rhan o'i bedd wedi goroesi yn yr eglwys leol. Dethlir dydd ei gŵyl ar 29 Ebrill. Yr enw Lladin arni yw Endelienta.

Buwch Endellion[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir hanes am Endellion yn adrodd fod ganddi fuwch a odrodd ei hun pob dydd. Un diwrnod crwydrodd y fuwch ar dir pennaeth Trerigoni (Saesneg: Tregony). Gwylltiodd ef a lladdodd y fuwch. Er mwyn dial lladdodd tad bedydd Endeillion y pennaeth ond llwyddodd Endeillion ei adfywio.[3]

Enw ffasiynol heddiw[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 25 Awst 2010 cyhoeddodd David Cameron a'i wraig Samantha iddynt alw eu plentyn newydd anedig yn Florence Rose Endellion gan iddynt fwynhau eu gwyliau ym mhentref St Endellion, Cernyw.[4][5]

Llefydd cysylltiedig[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhestr Wicidata:


# Eglwys neu Gymuned Delwedd Cyfesurynnau Lleoliad Wicidata
1 Sen Endelyn
The Collegiate Church of St Endellion - geograph.org.uk - 216898.jpg
50°34′23″N 4°49′48″W / 50.573°N 4.83°W / 50.573; -4.83 Cernyw Q3495314
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Santesau Celtaidd 388-680

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. www.llgc.org.uk; A Welsh Classical Dictionary; Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  2. Jones, TT 1977 The Daughters of Brychan, Brycheiniog Cyf.XVII
  3. Spencer, R, 1991, Saints of Wales and the West Country, Llanerch
  4. "Cameron 'proud dad' after wife Samantha has baby girl". BBC News (BBC). 24 Awst 2010. http://www.bbc.co.uk/news/uk-politics-11089358. Adalwyd 26 Awst 2010.
  5. "Camerons reveal daughter's name". BBC News (BBC). 25 Awst 2010. http://www.bbc.co.uk/news/uk-politics-11089358. Adalwyd 26 Awst 2010.